Yr iaith Ladin yng Nghymru

Daeth yr iaith Ladin i Gymru yn ystod oes yr Ymerodraeth Rufeinig. Parhaodd yn iaith y werin am ychydig canrifoedd, nes twf grŵp ethno-ieithyddol y Cymry. Lladin oedd yr iaith ryngwladol drwy gydol yr Oesoedd Canol, cyn iddi golli statws i Saesneg yn y cyfnod modern.

Yr oesoedd Rhufeinig ac ôl-Rufeinig (1g–7g)

Lladin Prydeinig oedd y ffurf ar Ladin llafar fel y'i siaredir ym Mhrydain yn yr oesoedd Rhufeinig (1g i'r 5g OC) ac ôl-Rufeinig (5g i'r 7g). Pan adawodd y Rhufeiniaid Brydain tua 410, roedd trigolion addysgedig de Prydain yn medru Lladin a Brythoneg, ac yn y 6g roedd trigolion Dyfed a Brycheiniog hefyd yn siarad Gwyddeleg. Bu farw'r iaith yn nechrau'r 8g, gan ildio'i thiriogaeth i'r Frythoneg yng Nghymru a'r Eingl-Sacsoneg yn Lloegr. Ceir nifer o fenthyceiriau Lladin yn y Frythoneg a'r Hen Saesneg, sydd yn goroesi heddiw yn y Gymraeg, y Gernyweg, y Llydaweg, a'r Saesneg modern.

Yr Oesoedd Canol (8g–15g)

Cyflwyniad yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy.

Trwy gydol yr Oesoedd Canol yng Nghymru, Lladin oedd yr iaith ryngwladol, megis gwledydd eraill Ewrop, ac iaith gyffredin yr ysgolheigion a'r Eglwys Gatholig. Ysgrifennodd nifer o lenorion Cymru drwy gyfrwng Lladin, gan gynnwys Gerallt Gymro, Asser, Siôn Gymro, Sieffre o Fynwy, a Rhygyfarch ap Sulien.

Lladin Newydd (16g–18g)

O'r goncwest Normanaidd yn 1066 hyd at 1733, Lladin oedd iaith cofnodion gwleidyddol swyddogol Teyrnas Lloegr, ac felly yng Nghymru hefyd o'r Deddfau Uno yng nghanol yr 16g. Lladin Newydd oedd y ffurf a ddefnyddiwyd mewn gweithiau gwreiddiol o'r 16g hyd y 19g.

Yn y cyfnod modern cynnar, dirywiodd defnydd yr iaith Ladin ar lefelau rhyngwladol, gan ildio lle i ieithoedd mawr Ewrop, yn enwedig Ffrangeg, Saesneg, ac Almaeneg. Erbyn y 19g, disodlwyd y Lladin gan y Saesneg fel iaith ryngwladol yng Nghymru. Mae'r clasurydd Carys Moseley yn beio'r ffaith na threiddiodd y Lladin cyn belled â'r Saesneg yn gymdeithasol yng Nghymru. Er iddi golli defnyddioldeb ymarferol yn y cyfnod 1750–1850, daeth Lladin yn bwnc ysgol mwy cyffredin ar draws Ewrop, yn enwedig yn sgil y mudiad newydd-ddyneiddiol ym Mhrwsia a'i bwyslais ar glasura, beirniadaeth ffynonellol, a ffiloleg gymharol. Bellach, Lladin Clasurol oedd yr unig ffurf ar yr iaith a ddysgir.[1]

Yr oes fodern (19g–21g)

Un o'r rhai oedd yn gwerthfawrogi'r Lladin fel iaith lenyddol, crefyddol, a rhyngwladol oedd Saunders Lewis. Fe gyfieithodd farddoniaeth o'r Lladin i'r Gymraeg, a dadleuodd yn frwd o blaid defnyddio Lladin yn yr Offeren Gatholig gan ei bod yn "iaith niwtral ar lefel foesol a gwleidyddol".[1] Bu Syr John Morris-Jones hefyd yn argymell dull gramadegol dysgu Lladin fel delfryd ar gyfer dysgu Cymraeg yn yr ysgolion.

Nid yw'r un ysgol yng Nghymru heddiw yn dysgu Lladin drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl Carys Moseley, "os na ddysgir Lladin ni fydd cenedlaethau i ddod yn gallu datgloi meysydd newydd yn hanes ein cenedl a'n cyfandir".[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Carys Moseley, "Lladin, Ffrangeg a Saesneg: rhai cwestiynau moesegol am ieithoedd rhyngwladol Cymru" yn Hawliau Iaith: Cyfrol Deyrnged Merêd (Astudiaethau Athronyddol #4), golygwyd gan E. Gwynn Matthews (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2015), tt. 82–102.