Lladin Newydd

Defnyddir y term Lladin Newydd i ddisgrifio'r iaith Ladin a ddefnyddiwyd mewn gweithiau gwreiddiol a grewyd rhwng tua 1500 a thua 1900. Defnyddiwyd Lladin yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer cyhoeddiadau ysgolheigaidd a gwyddonol, yn ogystal â defnyddiau eraill. Gosododd geiriau Lladin, a grewyd yn ystod y cyfnod hwn er mwyn mynegi syniadau gwyddonol, y sylfeini ar gyfer llawer o derminoleg wyddonol fodern, megis termau technegol mewn disgrifiadau sŵolegol a botanegol a thacsonomi.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.