Y pumed ffilm yng nghyfres James Bond yw You Only Live Twice (1967), a'r pumed ffilm i Sean Connery serennu fel yr asiant ffuglennol MI6. Addaswyd sgript y ffilm gan Roald Dahl a seiliwyd y ffilm ar nofel 1964 Ian Fleming o'r un enw. Dyma oedd y ffilm Bond cyntaf i anwybyddu'r rhan fwyaf o blot Fleming, gan ddefnyddio ambell gymeriad a lleoliad yn unig o'r stori wreiddiol mewn plot cwbl wahanol.
Yn y ffilm, danfonir Bond i Siapan ar ôl i longau gofod Americanaidd a Rwsiaidd ddiflannu tra'n teithio drwy'r bydysawd. Gyda'r naill wlad yn beio'r llall yng nghanol y Rhyfel Oer, teithia Bond i ynys Siapaneaidd anghysbell er mwyn darganfod pwy sy'n gyfrifol. Yno cyfarfu â
Ernst Stavro Blofeld, pennaeth SPECTRE. Cyflwyna'r ffilm gymeriad Blofeld nas gwelwyd ef cyn hyn. Mae SPECTRE yn gweithio ar ran rhywrai eraill, llywodraeth estron a gynrychiolir gan swyddogion Asiaidd. Er na enwir unrhyw wlad yn benodol yn y ffilm, mae'n bosib eu bod yn dod o Tsieina am fod perthynas Tsieina â'r UDA a'r Undeb Sofietaidd wedi cyrraedd isafbwynt tua'r cyfnod y cafodd y ffilm ei gynhyrchu.