Y drydedd ffilm ar hugain yn y gyfres o ffilmiau James Bond yw Casino Royale (2006). Cyfarwyddwyd y ffilm gan Martin Campbell a dyma oedd y ffilm gyntaf i serennu Daniel Craig fel yr asiant MI6 James Bond. Seiliwyd y ffilm ar y nofel gan Ian Fleming o 1953 o'r un enw, a chafodd ei addasu ar gyfer y sgrîn fawr gan y sgriptwyr Neal Purvis, Robert Wade a Paul Haggis. Hon yw'r drydedd addasiad o'r nofel ar gyfer y sgrîn fawr.