Dinas yn Japan yw Yokohama (Japaneg 横浜市 Yokohama-shi ), prifddinas talaith Kanagawa yn rhanbarth Kantō ar ynys Honshu, ac 2il ddinas mwyaf Japan o ran poblogaeth. Ynghyd â bod yn un o ddinas dynodedig, dan system sydd unigryw i Japan mae Yokohama hefyd yn "ddinas ymgorfforedig" sy'n rhan o fetropolis Tokyo heddiw; felly ar yr un pryd â bod yn ddinas, mae Yokohama yn cael ei chyfrif fel maestref fwyaf y byd, gyda phoblogaeth o 3.6 miliwn. Mae'n ganolfan fasnach bwysig yn Ardal Tokyo Fwyaf.
O ddiwedd y 19g ymlaen datblygodd yn gyflym i fod yn brif borthladd Siapan ar ddiwedd y cyfnod ynysig yn hanes Japan a elwir cyfnod Edo. Erbyn heddiw Yokohama yw un o borthladdoedd pwysicaf Japan, ynghyd â phortladdoedd Kobe, Osaka, Nagoya, Fukuoka, Tokyo ei hun a Chiba.