Dinas yng ngogledd-orllewin yr Almaen ac yn brifddinas talaith ffederal Bremen yw Bremen. Mae'n borthladd pwysig; saif ar afon Weser tua 60 km o'r môr. Yn 2005, roedd y boblogaeth yn 545,983, gyda 2.37 miliwn yn ardal ddinesig Bremen-Oldenburg. Bremen yw degfed dinas yr Almaen o ran poblogaeth.
Yn y cyfnod Rhufeinig, gelwid y ddinas yn Fabiranum neu Phabiranum; roedd yn yr ardal a breswylid gan lwyth y Chauci. Yn 1260, daeth Bremen yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd.