Frankfurt am Main |
|
Math | dinas fawr, tref goleg, canolfan ariannol, European City, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Hesse, dinas global |
---|
De-Frankfurt am Main2.ogg |
Poblogaeth | 775,790 |
---|
Sefydlwyd | - 1 g
|
---|
Pennaeth llywodraeth | Mike Josef |
---|
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
---|
Gefeilldref/i | Kraków |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Rhan o'r canlynol | Stadtregion Frankfurt |
---|
Sir | Darmstadt Government Region |
---|
Gwlad | Yr Almaen |
---|
Arwynebedd | 248.31 km² |
---|
Uwch y môr | 112 ±1 metr |
---|
Gerllaw | Afon Main |
---|
Yn ffinio gyda | Offenbach am Main, Wetteraukreis, Main-Kinzig-Kreis, Offenbach, Main-Taunus-Kreis, Hochtaunuskreis, Groß-Gerau, Bad Vilbel |
---|
Cyfesurynnau | 50.1106°N 8.6822°E |
---|
Cod post | 60308–60599, 65929–65936 |
---|
Pennaeth y Llywodraeth | Mike Josef |
---|
|
|
|
Mae Frankfurt am Main yn ddinas yn yr Almaen. Frankfurt yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith Hesse a'r bumed dinas yn yr Almaen o ran poblogaeth ar ôl Berlin, Hamburg, München a Cwlen, gyda poblogaeth o 670,095 yn Rhagfyr 2008.
Gelwir y ddinas yn Frankfurt am Main oherwydd ei lleoliad ar Afon Main ac i'w gwahaniaethu oddi wrth y Frankfurt arall, ar Afon Oder. Fel rheol pan gyfeirir at "Frankfurt", Frankfurt am Main a olygir. Frankurt yw'r drydedd canolfan ariannol yn Ewrop ar ôl Llundain a Paris, ac yn 2001 cyhoeddwyd mai Frankfurt oedd dinas gyfoethocaf Ewrop. Mae'r maes awyr ymhlith y prysuraf yn Ewrop.
Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i sefydliadau Rhufeinig yn y ganrif gyntaf. O 855 hyd 1792, Frankfurt oedd dinas etholiadol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd y ddinas ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dinistriwyd y canol hanesyddol.
Treuliodd y Cymro Richard Davies (a fyddai nes ymlaen yn esgob Llanelwy ac wedyn Tyddewi) gyfnod o alltudiaeth yn y ddinas o 1555 hyd 1558 am ei grefydd.
Mae gan y ddinas nifer o dimau peldroed; yr enwocaf ohonynt yw Eintracht Frankfurt.
Mae'n adnabyddus am Ffair Lyfrau Frankfurt a gynelir bob blwyddyn ers 1949 ond sydd á'u gwreiddiau yn y Canol Oesoedd.
Pobl enwog o Frankfurt am Main