Mynyddoedd yn Eryri, Cymru yw'r Carneddau. Maent yn cynnwys y darn mwyaf o dir uchel yng Nghymru (dros 2,500 o droedfeddi neu dros 3,000 o droedfeddi), a saith o'r 14 copa uchaf yng Nghymru. Maent hefyd yn cynnwys nifer o lynoedd, megis Llyn Cowlyd a Llyn Eigiau. Ffiniau'r Carneddau yw yr arfordir yn y gogledd, Dyffryn Conwy i'r dwyrain a ffordd yr A5 o Betws-y-Coed i Fethesda i'r de a'r gorllewin. Yn yr Oesoedd Canol roedd prif grib y Carneddau yn y gogledd yn rhannu cantrefArllechwedd yn ddau gwmwd, Arllechwedd Uchaf ac Arllechwedd Isaf.
Mae'r brif grib yn ymestyn o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin. Yn y pen gogledd-ddwyreiniol. mae Tal y Fan, sy'n cael ei wahanu gan Fwlch y Ddeufaen oddi wrth Drum. Ymhellach i'r de-orllewin, mae Foel Fras, Foel Grach, Carnedd Llywelyn, Carnedd Dafydd ac yna, ym mhen draw'r grib, Pen yr Ole Wen uwchben Llyn Ogwen.
Yn ystod y cyfnod Neolithig, ymddengys mai o gwmpas godreuon y Carneddau yr oedd presenoldeb dynol. Ymysg yr olion o'r cyfnod hwn mae siambr gladdu Maen y Bardd ar ochr ddwyreiniol y Carneddau, ac olion tŷ yn Llandegai ger Bangor. Yn ystod rhan gyntaf Oes yr Efydd roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach, gan wneud y tir uchel yn fwy atyniadol. Ceir llawer o weddillion tai a chladdfeydd o'r cyfnod hwn, er enghraifft yng Ngwm Anafon uwchben Abergwyngregyn ac yng Nghwm Ffrydlas uwchben Bethesda. Yn y cyfnod yma y codwyd y meini hirion megis y rhai ym Mwlch y Ddeufaen, ac y codwyd llawer o'r carneddi a welir ar y mynyddoedd a bryniau, er enghraifft ar Drosgl.
Nid oes cymaint o olion o Oes yr Haearn ar y tir uchel; nid oedd y tywydd mor ffafriol erbyn hyn ac roedd mawnog yn dechrau ffurfio. Gall fod rhai o'r olion tai ar lechweddau Moel Faban ger Bethesda ac ym Mhant y Griafolen islaw Llyn Dulyn yn dyddio o'r cyfnod yma. Ceir cryn nifer o fryngeiri ar y bryniau isaf, er enghraifft Braich-y-Dinas ger Penmaenmawr a Pen y Gaer gerllaw Llanbedr-y-cennin. Adeiladodd y Rhufeiniaid gaer Canovium (Caerhun) i warchod y groesfan dros afon Conwy, ac roedd ffordd Rufeinig yn arwain oddi yma dros Fwlch y Ddeufaen i Segontium.