Afon fynyddig yn y Carneddau, Eryri, yw Afon Ffrydlas. Mae'n un o lednentydd dde Afon Ogwen. Ei hyd yw tua 3 milltir.
Cwrs
Mae tarddle Afon Ffrydlas yn gorwedd yn uchel ar lethrau gorllewinol mynydd Drosgl, tua 1700 troedfedd i fyny ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Ogwen.[1] Ger ei tharddle ceir ffos ddŵr (leat) a adwaenir fel y "Ffos Rufeinig" ond a greuwyd yn y 19eg ganrif i gysylltu ag Afon Caseg er mwyn gwaith chwarel.
Llifa'r afon i lawr Cwm Ffrydlas i gyfeiriad y de-orllewin. Yn y cwm brwynog hwnnw llifa nifer o ffrydiau bychain i'r afon. Mae'n disgyn yn syrth rhwng Moel Faban a Gyrn Wigau i'r ardal uwchben Bethesda ger Gerlan ac wedyn yn syth i lawr trwy'r caeau a'r dref i lifo i Afon Ogwen ger Pont y Pant yng nghanol Bethesda.[1]
Hynafiaethau
Yng Nghwm Ffrydlas ac ar y bryniau o'i gwmpas ceir sawl safle archeolegol sy'n dyddio o Oes yr Efydd.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Map OS Landranger 1:25,000 Taflen Eryri.