Mynydd yn y Carneddau yn Eryri, Gwynedd yw Bera Bach.
Lleoliad
Saif ar y grib sy'n arwain tua'r gogledd-orllewin oddi ar brif grib y Carneddau ger y Garnedd Uchaf.
Uchder
Er gwaethaf yr enwau, mae Bera Mawr (794m) ychydig yn is na chopa Bera Bach gerllaw, sy'n 807 medr.
Llwybrau
Gellir ei ddringo yn weddol hawdd o bentref Bethesda, gan ddringo i'r copa llai Gryn Wigau gyntaf, yna i Drosgl ac ymlaen i Bera Bach a Bera Mawr. Gellir hefyd dringo Bera Mawr o Abergwyngregyn heibio'r rhaeadr.
Gweler hefyd
Dolennau allanol