Gwleidydd Prydeinig yw Syr John Vincent Cable (ganed 9 Mai 1943) a oedd yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2017 a 2010 ac yn Aelod Seneddol dros Twickenham o 1997 i 2015 ac ers 2017. Roedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau o 2010 i 2015.
Astudiodd Cable economeg ym Mhrifysgolion Caergrawnt a Glasgow, cyn gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cenia rhwng 1966 a 1968, ac i Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad yn y 1970au a'r 1980au. O 1968 i 1974 roedd yn ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Glasgow. Gwasanaethodd fel Prif Economegydd i Shell o 1995 i 1997. Roedd Cable yn weithgar yn y Blaid Lafur yn y 1970au, yn dod yn gynghorydd Llafur yn Glasgow. Yn 1982, gwrthgiliodd i'r blaid a ffurfiwyd o'r newydd, Plaid y Democratiaid Cymdeithasol, a aeth yn ei blaen i gyfuno â'r Blaid Ryddfrydol i ffurfio'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Daeth Cable yn Llefarydd Trysorlys y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mehefin 2003 ac fe'i hetholwyd yn ddirprwy arweinydd ym Mawrth 2006, gan wasanaethu fel Arweinydd Dros Dro am ddau fis yn 2007 o ymddiswyddiad Menzies Campbell tan etholiad Nick Clegg ar 18 Rhagfyr. Ymddiswyddodd Cable o'r ddwy swydd hyn ym Mai 2010 ar ôl dod yn Ysgrifennydd Busnes ac yn Llywydd y Bwrdd Masnach yn llywodraeth glymblaid Cameron – Clegg.
Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2017 ac ymddiswyddiad Tim Farron, fe safodd Cable yn etholiad arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2017 ac fe'i hetholwyd yn arweinydd y blaid yn ddiwrthwynebiad.
Ym Mai 2019 cyhoeddodd Cable wedi y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Etholwyd Jo Swinson fel ei olynydd yng Ngorffennaf 2019.
Gyrfa wleidyddol
Y Blynyddoedd Cynnar
Yn y brifysgol, roedd Cable yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol ond yna ymunodd â'r Blaid Lafur yn 1966. Yn 1970, ymlongodd Glasgow Hillhead dros Lafur, ond methodd â dadosod yr AS Ceidwadol ar y pryd, Tam Galbraith. Yn yr un flwyddyn, safodd Cable i'w ethol i Gyngor Dosbarth Glasgow yn ward y Gorllewin Partick, ond methodd â chael ei ethol. Daeth yn gynghorydd Llafur yn 1971, yn cynrychioli ward Maryhill, a safodd i lawr yn 1974. Yn 1979, fe geisiodd enwebiad y Blaid Lafur am Hampstead, gan golli i Ken Livingstone, a fu'n aflwyddiannus wrth gymryd y sedd.
Yn Chwefror 1982, symudodd i Blaid y Democratiaid Cymdeithasol (SDP) a grëwyd yn ddiweddar. Ef oedd ymgeisydd Seneddol Cynghrair y Rhyddfrydwyr a’r Democratiaid Cymdeithasol ar gyfer ei ddinas gartref Efrog yn etholiadau cyffredinol 1983 a 1987. Yn dilyn uniad 1988 Plaid y Democratiaid Cymdeithasol a'r Blaid Ryddfrydol, gorffennodd yn ail yn etholiad cyffredinol 1992 i'r AS Ceidwadol Toby Jessel yn etholaeth Twickenham, gan 5,711 o bleidleisiau.
Aelod Seneddol (1997–2015)
Aeth Cable i mewn i Dŷ'r Cyffredin ar ôl trechu'r AS Ceidwadol ar y pryd Toby Jessel yn etholaeth Twickenham yn ei ail ymgais, yn etholiad cyffredinol 1997. Wedi hynny, cynyddodd ei fwyafrif yn etholiadau 2001, 2005 a chynyddodd ymhellach fyth yn 2010. Collodd ei sedd yn 2015, ond ei hadennill yn yr etholiad ar fyr rybudd yn 2017.
Cyfeiriadau