Saif y dalaith rhwng Llyn Van a'r ffin ag Iran, ac mae'n ffinio ar daleithiau Bitlis yn y gorllewin, Siirt yn y de-orllewin, Şırnak a Hakkari yn y de ac Ağrı yn y gogledd. Mae ganddi arwynebedd o 19,069 km2 a phoblogaeth o 1,012,707.
Daw brîd enwog o gath, Cath Van (Van kedisi), o'r ardal yma.