Ceir canran sylweddol o Cyrdiaid yn byw yn nhalaith Kars, sy'n dalaith fynyddig. Yn hanesyddol, mae gan Kars gysylltiad cryf gyda Armenia. Ceir un o'r enghreifftiau gorau o eglwys Armeniaidd hynafol yn Ani, a fu ar un adeg yn brifddinas Teyrnas Armenia.
Llifa afon Kura, sy'n tarddu yn y mynyddoedd, trwy'r dalaith. Ceir sawl llyn, yn cynnwys Llyn Çıldır.