Lleolir talaith Trabzon yng ngogledd-ddwyrain Twrci ar lan y Môr Du. Ei phrifddinas yw Trabzon (neu Trebizond). Mae'n rhan o ranbarth Karadeniz Bölgesi (Talaith y Môr Du). Poblogaeth: 975,137 (2009).
Fel canolfan grym teulu'r Comeniaid mae gan Trabzon le amlwg yn hanes yr Ymerodraeth Fysantaidd; o'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas Ymerodraeth Trebizond a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf.
Mae hinsawdd y dalaith yn wlyb a cheir nifer o goedwigoedd ar y bryniau.