Umberto Giordano

Umberto Giordano
GanwydUmberto Menotti Maria Giordano Edit this on Wikidata
28 Awst 1867 Edit this on Wikidata
Foggia Edit this on Wikidata
Bu farw12 Tachwedd 1948 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa cena delle beffe, Andrea Chénier (opera), Il re Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr o'r Eidal oedd Umberto Menotti Maria Giordano (28 Awst 1867 – 12 Tachwedd 1948).[1] Cyfansoddodd operâu yn bennaf.

Bywgraffiad

Fe'i ganed yn Foggia yn Apulia, de'r Eidal, ac astudiodd o dan Paolo Serrao yng Nghonservatoire Napoli.[2] Ysgrifennwyd ei opera gyntaf, Marina, ar gyfer cystadleuaeth a hyrwyddwyd gan y cyhoeddwyr cerddoriaeth Casa Sonzogno ar gyfer yr opera un act orau, a gofir heddiw oherwydd ei bod yn nodi dechrau'r symudiad verismo Eidalaidd. Yr enillydd oedd Mascagni am ei Cavalleria rusticana. Gosodwyd Giordano, y cystadleuydd ieuengaf, yn chweched ymhlith saith deg tri o gynigion gyda'i Marina, gwaith a greodd ddigon o ddiddordeb i Sonzogno gomisiynu llwyfannu opera wedi'i seilio arno yn nhymor 1891-92.

Y canlyniad oedd Mala vita, opera verismo [3] graenus am labrwr sy'n addo diwygio putain os caiff ei wella o'r diciâu. Achosodd y gwaith hwn dipyn o sgandal pan berfformiwyd ef yn Teatro di San Carlo yn Napoli, ym mis Chwefror 1892. Chwaraeodd yn llwyddiannus yn Fienna, Prague a Berlin ac fe’i hail-ysgrifennwyd fel Il Voto ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mewn ymgais i godi diddordeb yn y gwaith eto.[4]

Rhoddodd Giordano cynnig ar bwnc mwy rhamantus gyda'i opera nesaf, Regina Diaz, gyda libreto gan Giovanni Targioni-Tozzetti a Guido Menasci (1894), ond roedd hwn yn fethiant, a gymerwyd oddi ar y llwyfan ar ôl dim ond ddau berfformiad.[5]

Umberto Giordano, 1905

Symudodd Giordano i Milan a dychwelyd i verismo gyda'i waith mwyaf adnabyddus, Andrea Chénier (1896), yn seiliedig ar fywyd y bardd Ffrengig André Chénier.[6] Roedd Fedora (1898), yn seiliedig ar ddrama Victorien Sardou, yn cynnwys tenor ifanc o'r enw Enrico Caruso.[7] Roedd hefyd yn llwyddiant ac mae'n dal i gael ei berfformio hyd heddiw. Mae ei weithiau diweddarach yn llawer llai hysbys, ond fe'u hadfywir yn achlysurol ac yn achos La cena delle beffe (yn seiliedig ar y ddrama o'r un teitl gan Sem Benelli) a gydnabyddir gan gerddolegwyr a beirniaid gyda pheth parch.[8]

Bu farw ym Milan yn 81 mlwydd oed.[9]

Mae'r theatr bwysicaf yn ei dref enedigol, Foggia, wedi'i chysegru i Umberto Giordano. Mae sgwâr yn Foggia hefyd wedi'i enwi ar ei ôl ac mae'n cynnwys sawl cerflun sy'n cynrychioli ei weithiau enwocaf.[10]

Operâu

Cyfeiriadau

  1. "Umberto Giordano | Italian composer". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-09-28.
  2. Amintore Galli (1892). Il Teatro illustrato e la musica popolare: Ritratti di maestri ed artisti celebri, vedute e bozzetti di scene, disegni di teatri monumentali, costumi teatrali, ornamentazioni, ecc., ecc. 12. E. Sonzogno. t. 66.
  3. "Verismo | Italian opera". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-28.
  4. Burton D. Fisher (2005). Andrea Chenier (Giordano) Mini Guide. Opera Mini Guide Series. Opera Journeys Publishing. t. 21. ISBN 9781930841550.
  5. Alfred Bates, James Penny Boyd, gol. (1909). Drama and Opera: The opera. Drama and Opera: Their History, Literature and Influence on Civilization, Athenian Society (London, England). 23-24. Athenian Society. t. 295.
  6. Matthew Boyden, Nick Kimberley (2002). Joe Staines (gol.). The Rough Guide to Opera (arg. illustrated). Rough Guides. t. 379. ISBN 9781858287492.
  7. Pierre Van Rensselaer Key, Bruno Zirato (1922). Enrico Caruso: A Biography. Little, Brown. t. 99.
  8. Anthony (Tony) Amato (2011). The Smallest Grand Opera in the World. Universe. t. 156. ISBN 9781450299176.
  9. Alan Riding, Leslie Dunton-Downer (2006). Eyewitness Companions: Opera. Penguin. t. 162. ISBN 9780756643904.
  10. Dana Facaros, Michael Pauls (2007). Bay of Naples & Southern Italy (arg. illustrated). New Holland Publishers. t. 240. ISBN 9781860113499.
  11. "Umberto Giordano — People — Royal Opera House". www.roh.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-28.