Gloria Grazianna Victoria America Caruso, Enrico Caruso Jr.
Gwobr/au
Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood
Tenor o'r Eidal oedd Enrico Caruso (25 Chwefror1873 – 2 Awst1921) a oedd un o'r cantorion mwyaf llwyddiannus yn hanes yr opera. Mae ei boblogrwydd wedi tyfu wrth i dechnoleg yr oes dyfu - sef y gallu i recordio a masnachu copiau o'i lais; roedd ganddo lais anghyffredin iawn, wyneb ifanc ond llais aeddfed. Gellir dadlau fod ei ddull ef o ganu wedi dylanwadu'n gryf ar bob tenor a'i ddilynodd.
Ei fywyd
Yn ystod ei yrfa o 18 mlynedd (rhwng 1902 a 1920) fel canwr opera, recordiodd Enrico Caruso dros 260 o ddarnau a gwnaeth miliynau o ddoleri am ei drafferth. Disgiau 78 rpm oedd technoleg ddiweddara'r dydd. Drwy wrando'n astud ar esiamplau o'r recordiadau hyn, gellir clywed fel y datblygodd ei lais dros y blynyddoedd.