Tudwal Tudclyd |
---|
Galwedigaeth | teyrn |
---|
Swydd | list of kings of Strathclyde |
---|
Tad | Clynog ab Dyfnwal |
---|
Plant | Rhydderch Hael |
---|
Brenin cynnar ar deyrnas Frythonaidd Ystrad Clud oedd Tudwal Tudclyd. Roedd yn dad i Rhydderch Hael (m. tua 604) ac felly buasai yn ei flodau tua chanol y 6g.
Cyfeirir at Dudwal mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel tad Rhydderch.
Ystyr yr enw Tudwal yw "Arweinydd y bobl" (tud = "pobl", cf. Gwyddeleg túath + Hen Gymraeg gwâl = "arweinydd"), ac mae Tudclyd yn golygu "Amddiffynnwr y bobl" (clyd = "cysgod", "amddiffyn").
Ceir mwy nag un traddodiad am dras Tudwal. Mae un o'r achau yn ei wneud yn fab i ryw Eidinet (Ednyfed?) ac felly'n un o ddisgynyddion Macsen Wledig, ond mae ach arall yn ei wneud yn ddisgynnydd i'r arwr Dyfnwal Hen.
Roedd Tudwal yn berchen un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain:
- (H)ogalen Tudwal Tutklyd: o hogai wr dewr (e)i gleddyf arni, od enwaedi ar wr, marw fyddai; ag os hogai wr llwfr, ni byddai waeth.
Cyfeirir at Dudwal (os yr un gŵr ydyw) ym Muchedd Sant Ninian gan Ailred o Rievaulx (12g). Yn ôl y fuchedd roedd Tuduvallus yn frenin pechadurus a gosbwyd trwy ei wneud yn ddall. Ymddengys fod y fuchedd yn seiliedig ar ffynonellau o'r 8g.
Cyfeiriadau
- Trioedd Ynys Prydein, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991)
|
---|
Teyrnasoedd: | |
---|
Pobl: | |
---|
Lleoedd: | |
---|
Gweler hefyd: | |
---|