Dygynnelw

Dygynnelw
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaOwain ab Urien Edit this on Wikidata

Bardd a gysylltir ag Owain mab Urien Rheged yw Dygynnelw. Os gwir y traddodiad buasai yn ei flodau yn ail hanner y 6g[1] ac yn gyfoeswr â Thaliesin, yntau'n fardd a ganodd i Urien yn yr Hen Ogledd yn y cyfnod hwnnw.

Tystiolaeth

Dim ond tri chyfeiriad a geir at Ddygynnelw. Mewn triawd yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain, mae'n cael ei alw'n un o "Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain", gyda Tristfardd ac Afan Ferddig (orgraff ddiweddar):

Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
Tristfardd bardd Urien,
A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.[2]

Mewn testun canoloesol sy'n ymwneud â chrefft y bardd llys, dywedir am amrywiad ar yr englyn unodl union ei fod yn 'englyn anghyfodl yr hwn a elwir "dull Dyg[yn]nelw"'.[2]

Yn olaf enwodd y Gogynfardd Cynddelw Brydydd Mawr ei fab yn Ddygynnelw a chanodd farwnad nodedig iddo. Mae Rachel Bromwich yn awgrymu fod Cynddelw wedi dewis enwi ei fab ar ôl y Cynfardd (mae Dygynnelw yn enw anghyffredin iawn).[3]

Erbyn heddiw mae gwaith Dygynnelw i gyd ar goll, ond mae'n amlwg ei fod o statws arbennig yn y traddodiad cynnar.

Cyfeiriadau

  1. Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (argraffiad newydd, Caerdydd, 1991).
  2. 2.0 2.1 Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (argraffiad newydd, Caerdydd, 1991), triawd 11, t.331.
  3. Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, gol. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (Caerdydd, 1991), t.367.