Tre'r Ceiri
Mae Tre'r Ceiri yn fryngaer Geltaidd o'r Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid ar y mwyaf dwyreiniol o dri chopa Yr Eifl, uwchben pentref Llanaelhaearn yn ardal penrhyn Llŷn, Gwynedd. Mae'n un o'r bryngeiri mwyaf trawiadol yng Nghymru a'r fryngaer Oes Haearn mwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[1] Mae arwynebedd y gaer oddeutu 2.5ha.[2] Cyfeirnod OS: SH372446. ![]() DisgrifiadMae'r fryngaer yng ngofal Cadw, a gwnaed cryn dipyn o waith cynnal a chadw ar y muriau a'r llwybrau o amgylch y gaer yn y blynyddoedd diwethaf. Gellir cyrraedd Tre'r Ceiri trwy ddilyn y llwybr troed sy'n cychwyn ychydig uwchben Llanaelhaearn ar ochr y ffordd i Nefyn. Amgylchynir y fryngaer gan furiau cerrig sydd yn dal o gryn uchder mewn mannau, hyd at 3 medr. Yn y rhannau lle mae'r amddiffynfeydd naturiol gryfaf mae'r mur yn un sengl, ond mewn rhannau eraill mae dau fur. Tu mewn i'r muriau mae gweddillion tua 150 o dai crwn. Bu cloddio yma yn 1956, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau yn dyddio rhwng tua 150 O.C. a 400 O.C. Ymddengys felly fod y Rhufeiniaid wedi caniatau i'r llwyth lleol, y Gangani, ddefnyddio'r fryngaer.[3] Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN028.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. Gweler hefyd
Oriel
Ffotograffau eraill
Cuddio / Dangos
Cuddio / Dangos
Cyfeiriadau
|