Gwleidydd o'r Alban yw Tommy Sheppard (ganwyd 6 Mawrth 1959) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Caeredin; mae'r etholaeth yn Ninas Caeredin, yr Alban. Mae Tommy Sheppard yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ganwyd Sheppard yn Coleraine, Swydd Derry yn 1959 cyn symud ychydig filltiroedd i lawr y stryd i Portstewart, pan oedd yn 7 oed. Wedi'r ysgol uwchradd aeth i Brifysgol Aberdeen i astudio meddygaeth.[1] Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg yn 1982. Yr un flwyddyn, fe'i etholwyd yn Is-Lywydd Undeb y Myfyrwyr (yr NUS) a symudodd i Lundain.[2]
Tra yn Llundain, bu'n ymgeisydd seneddol i'r Blaid Lafur, ond yn In 2012 ymunodd gyda'r ymgyrch dros annibyniaeth i'r Alban ac yn 2014 ymunodd gyda'r SNP.
Etholiad 2015
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Tommy Sheppard 23188 o bleidleisiau, sef 49.2% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 28.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9106 pleidlais.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau