Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr
Symudodd Johnes o gartref y teulu yn Croft Castle i Hafod Uchtryd ger Cwmystwyth, Ceredigion, a dechreuodd ddatblygu yr ystâd drwy adeiladu capel anwes ar gyfer tenantiaid yr ystâd, yn ogystal ag ysgol a gerddi, llwybrau a phontydd godidog. Arbrofodd gyda bridio defaid a gwartheg, a thyfu cnydau newydd, gan sefydlu llaethdy ffynianus. Cafodd nifer sylweddol o goed eu plannu ar dir nad oedd yn addas ar gyfer cnydau; a gwobrwywyd medal aur y Royal Society of Arts i Johnes bum gwaith er mwyn cydnabod ei ymdrechion. Anogodd ei denantiaid i wella eu ymarfer ffermio, gan gyhoeddi A Cardiganshire Landlord's Advice to his Tenants ym 1800, ynghyd â chyfieithiad Cymraeg, a cynigodd wobrau am y cnydau gorau. Bu hefyd yn un o brif gefnogwyr Cymdeithas Amaeth Ceredigion a sefydlwyd ym 1784. Ymroddodd Johnes ei oes a'i ffortiwn i ddatblygu ystâd Hafod.[1][2]
Cefndir teuluol a bywyd cynnar
Roedd Johnes yn aelod o hen deulu o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ac yn perthyn i William Wilberforce trwy modryb ei fam, Anne Knight. Mae hefyd yn perthyn trwy ochr yma ei deulu i Marchweithian, Arglwydd Is Aled ac Aed Mawr, tywysog yn nhrefedigaeth cyntaf y Brythoniaid.[2]
Roedd yn fab hynaf Thomas Johnes (tua 1721–1780) o Lanfair Clydogau ac Elizabeth, merch Richard Knight o Croft Castle, Swydd Henffordd. Ganwyd ef ar 1 Medi1748, ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Sant Laurence, Llwydlo. Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu Saesneg yn ei ysgol offeiriadol paratoadol lleol, cyn mynychu Ysgol Ramadeg Amwythig pan oedd yn saith oed. Ym 1760, aeth i Goleg Eton, lle bu am saith mlynedd, yn ystod y cyfnod hwn dysgodd Groeg a'r clasuron Lladin dan ofal William Windham. Ym 1767, mynychodd gwrs o ddarlithoedd ar Resymeg ac Athroniaeth Moesol ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gadael y brifysgol yn hwyr ym 1768, aeth yn syth ar daith o amgylch y cyfandir ynghyd â Robert Listen. O dan ei arweiniad ef, teithiodd drwy Ffrainc, Sbaen a'r Eidal cyn mynd i'r Swistir a dilyn llwybr Afon Rhein cyn belled â Strasbourg a theithio trwy'r Alsace a Lorraine i Baris, lle buont yn byw am sawl mis.[3] Dychwelodd Johnes ym 1771, a treuliodd bron i dair mlynedd yn Swydd Henffordd, gan ddilyn amryw o orchwylion gwledig. Erbyn 1774, roedd wedi blino ar fyw bywyd hamddenol, ac roedd yn benderfynol o ymroddi ei hun i achos pwysicach a mwy arobryn. Safodd i ddod yn Aelod Seneddol, fel ymgeisydd dros Geredigion, yn erbyn Syr Robert Smith. Enillodd Johnes trwy ddeiseb yn y pen draw.
Ym mis Awst 1778, priododd Maria Burgh, o Sir Fynwy, yn Eglwys y Santes Fair, Cas-gwent. Hi oedd unig blentyn a oroesodd ac etifeddwraig y Parchedig Henry Burgh o Parc Llettis. Apwyntiwyd yn Gyrnol milisia Sir Gaerfyrddin yr un flwyddyn. O fewn blwyddyn iddynt briodi, daeth Maria yn wael a bu farw ym 1782 yng Nghaerfaddon, Gwlad yr Haf yn ddi-blant.[2]
Cyn diwedd y flwyddyn honno, ail-briododd Johnes. Ei gyfnither, Jane Johnes, oedd ei ail wraig, sef merch John Johnes o Ddolaucothi. Achosodd hyn ffrae a ddinistriodd ei berthynas gyda'i deulu am weddill ei oes. Tybier na siaradodd fyth gyda'i fam wedi'r ail briodas hon.[4] Roedd Jane yn ddynes prydferth a deallus iawn, a daeth a hapusrwydd iddo yn y briodas. Roedd y berthynas yn un agos, a rhanodd y ddau ddiddordeb mewn gwella Ceredigion a chariad am yr Hafod.
Ganed eu plentyn cyntaf, Mariamné ar 30 Mehefin1784. Roedd Johnes wedi gwirioni arni a bu'n ei magu llawer. Derbyniodd addysg ddrud, a chyflogwyd tiwtoriaid byd eang. Roedd perthynas agos rhwng y ddau a torodd ei galon pan fu farw ar y 4 Gorffennaf1811.
Ganed ei fab, Evan, ym 1786, ond bu farw yn ifanc iawn.[4]
Erbyn gaeaf 1814, roedd yn dal i alaru wedi ei golled ac yn doreddig. Daeth yn wael a symudodd i dŷ a oedd wedi prynu ychydig ynghynt ar arfordir Dyfnaint. Bu farw ym mwthyn Langstone Cliff,[5] ger Dawlish ar 23 Ebrill1816 yn 68 oed. Claddwyd ef ym Mhlwyf yr Eglwys Newydd, yn Eglwys Sant Michael, Hafod Uchtryd.
Hafod Uchtryd
Ym 1780, ar farwolaeth ei dad, etifeddodd ystâd Hafod Uchtryd yng Ngheredigion. Symudodd i fyw yno ym 1783 gan ganfod mewn cyflwr gwael, hanner adfail ac wedi ei amgylchynu gan 10,000 acer o ucheldir Cymreig. Roedd y tenantiaid ar lwg yn anobeithio mewn cartrefi gwael. Symudodd hwy o fythod i fythynod a cyflogodd nifer ohonynt i blannu coed ar y tir. Roedd ganddo'r weledigaeth a dull pragmatig o reoli ystâd.[6]
Adeiladwyd plasty newydd yn yr Hafod ym 1785 gan Johnes, wedi i'r tŷ hanner adfail a adeiladwyd gan y teulu Herbert gael ei ddymchwel. Dyluniwyd gan Thomas Baldwin o Bath yn yr arddull Gothig. Roedd llyfrgell eang mewn adeilad siâp octagon o fewn y plasty. Casglodd Johnes nifer o lyfrau prin a bonheddig am hanes natur, llawysgrifau Cymraeg, Ffrangeg a Lladin a oedd yn cynnwys rhai gan Edward Lhuyd yn ogystal â nifer o lawysgrifau a rhifynau wedi eu argraffu o'r canol oesoedd yn Ffrangeg. Prynwyd hefyd gasgliad Marquis de Pesaro.[2] Safai cerflun gan Thomas Banks, yn cynrychioli Thetis yn trochi Achilles yn yr afon Styx yn y llyfrgell; cafodd y cerflun ei gomisiynu gan ei wraig gyda delwedd ei ferch fel baban ar gyfer pen Achilles. Mae'r cerflun i'w weld yn y Victoria and Albert Museum.[7]
Roedd tŷ gwydr 160 troedfedd o hyn yn cysylltu gyda'r llyfrgell, ac roedd hwn yn llawn planhigion prin.[3] Ger y mynedfa o'r ystafell hwn i'r ystafell fwyta, roedd paentiad yn hongian, gan Peter Paul Rubens o Decius Mus yn derbyn Bendithiad o'r Pontifex Maximus. Roedd paentiad uwchben y lle tân, o'r proffwyd Elijah yn cael ei fwydo gan cigfrain, a fu'n wreddiddiol yn hongian yn Abaty Talley, ac a roddwyd i'w hynafiaid wedi diddymiad y mynachlogydd. Ymysg y nifer o baentiadau yn y plasty, roedd portread o "Mr. Johnes of Llanvair", gan Syr Godfrey Kneller; o "Robert Liston, Esq.", gan Wickstead; o "Richard Gorges, Esq., of Eye", Swydd Henffordd; ac o Viganoni; copi o "Cupid Sleeping" gan Guido, tirluniau gan Both a Berghem, a phaentiad o'r Alchymist wedi ei ddinistrio, gan Salvator Rosa. Yn yr ystafell groeso roedd llun enwog Hogarth o Ffair Southwark, Descent from the Cross gan Van Dyck, "Ecce Homo" dau Moralez, dau dirlun gan Claude, gorymdaith y Doge Fenis gan Canaletti; Assumption gan Bernardo Lonino, un o ddisgyblion Leonardo da Vinci, a fu'n wreiddiol ar allor Lugano; Holy Family gan Reubens, portread o Yr Arglwydd Ganghellor Thurlow gan Gardener, a rhai gweithiau miniatur gan Miss Johnes. Cafodd y neuadd ei adeiladu o farmor Mona[8] a'i ed with a'i addurno gyda cherflun Groegaidd o Dionysus; chwe paentiad gan Froissart, a dynwarediad o basso relievo, gan Stothard.
Ar 13 Mawrth1807, dinistriwyd y plasty a chynwys y llyfrgell gan dân. Roedd Johnes yn y Senedd yn Llundain pan glywodd y newyddion. Fe lwyddodd ei wraig a'i ferch ddianc o'r tân.[3] Rhentodd y teulu Castle Hill ger Aberystwyth a cyflogwyd Baldwin o Bath fel pensaer unwaith eto. Ar 1 Medi yr un flwyddyn, dechreuwyd y gwaith o ail-adeiladu, a cytunodd y contractwyr i dalu cosb ariannol os nad oedd to ar y plasty erbyn y Nadolig. Dechreuodd y teulu Johnse brynu dodrefn newydd yn barod i symud i mewn i'r tŷ newydd, gan gynnwys o blasty PalladinaiddFonthill Splendens, a oedd yn eiddo i William Thomas Beckford. Prynwyd drysau gwydr Ffrengig a nifer o lefydd tân, un wedi ei gerfio gan Banks gyda dau wyneb: Pan ac Iris, Penelope ac Odysseus. Cadwyd rhain yn yr Hafod tan fu'r plasty wedi ei orffen. Yn ystod y gwaith adeiladu, gadawodd y teulu Castle Hill, gan deithio o amgylch Llundain a'r Alban, gan ddychwelyd pob blwyddyn i ganfod y tŷ dal heb ei orffen. Bu llawer o oedi yn yr adeiladu, hyd i Johnes aros yng Nghymru a goruchwylio'r gwaith gan ymweld yn wythnosol i gadw llygad ar y datblygiad. Cymerodd y prosiect dair mlynedd i'w gwblhau.
Cymryn
Erbyn heddiw, mae ystâd Hafod yn parhau i adlewyrchu gweledigaeth a chynefin Thomas Johnes.[9] Mae'r ystâd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Hafod a'r Comisiwn Coedwigaeth, sy'n ceisio cadw a gwella tirwedd Thomas Johnes.
Llyfryddiaeth
John a Bernard Burke (1847). Burke's Genealogical and Heraldic History of the Landed Gentry. London: H. Colburn
Sidney Lee (1908). The Dictionary of National Biography: From the Earliest Times to 1900. London: Oxford University Press
, paralel ffotograffaidd cyfoes i 'An Attempt to Describe Hafod'
Thomas Johnes; Richard J. Moore-Colyer (1992). A Land of Pure Delight: Selections from the Letters of Thomas Johnes of Hafod, Cardiganshire, 1748–1816. Gomer. ISBN 0863837514