Thomas Hudson-Williams |
---|
Ganwyd | 4 Chwefror 1873 Caernarfon |
---|
Bu farw | 12 Ebrill 1961 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | academydd |
---|
Awdur, cyfieithydd ac ysgolhaig oedd Thomas Hudson-Williams (4 Chwefror 1873 – 12 Ebrill 1961). Bu'n Athro Groeg am 38 mlynedd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Cyfieithodd nifer o lyfrau i'r Gymraeg yn ogystal ag ysgrifennu ar hanes a diwylliant Gwlad Groeg.[1]
Gwaith llenyddol
Ymhlith ei waith mae cyfieithiad o'r Rwseg, Anfarwol werin, nofel yn ymdrin a helyntion Rwsia yn 1941 gan Fasili Grossman a gyhoeddwyd gan Wasg Aberystwyth ym 1945. Cyfieithodd hefyd Pedair Drama Fer o'r Rwseg (gan tdri awdur), a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion ym 1964.
Llyfryddiaeth ddethol
- Ffeithiol
- Y Groegiaid Gynt (1932). Cyfres y Werin.
- Atgofion am Gaernarfon (1950)
- Bannau Llên Pwyl (1953)
- Cyfieithiadau
- Storïau o'r Rwseg (1942)
- Anfarwol Werin (1945)
- Cerddi o'r Rwseg (1945)
- Ar y Weirglodd (1946)
- Merch y Capten (1947). Pushkin.
- Rwsalca (1950)
- Straeon Tad Hanes (1954). Herodotus
- Y Tadau a'r Plant (1964)
- Pedair Drama Fer o'r Rwseg (1964)
Cyfeiriadau