Terminal Hoboken
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() Mae Terminal Hoboken yn orsaf rhyngfoddol yn Hoboken, New Jersey, Yr Unol Daleithiau. Mae 9 llinell New Jersey Transit, 1 llinell Rheilffordd Metro-North, sawl gwasanaeth fws, gwasanaethau Rheilffordd Ysgafn Hudson-Bergen, gwasanaethau PATH ( Port Authority Trans Hudson) a fferiau NY Waterway. Mae dros 50,000 o bobl yn defnyddio’r terminal yn ddyddiol. HanesMae fferiau wedi defnyddio’r safle dros flynyddoedd maith. Dechreuwyd gwasanaeth fferi stêm ym 1811 gan John Stevens, dyfeisydd sy wedi sefydlu Hoboken. Adeiladwyd twneli rheilffordd trwy Fryn Bergen er mwyn cyrraedd y fferiau dros Afon Hudson. Adeiladwyd y twnnel cyntaf gan Reilffordd Morris a Essex ym 1876, a phrydleswyd y llinell i Rheilffordd Delaware, Lackawanna, and Western. Cynlluniwyd y terminal gan Kenneth MacKenzie Murchison.[1] Adeiladwyd y terminal presennol ym 1907 gan Rhielffordd Delaware, Lackawanna a Western ac agorwyd ail dwnnel ym 1908. opened the second parallel tunnel in 1908. Mae’r New Jersey Transit yn dal i ddefnyddio’r ddau.[2] Estynnwyd Rheilffordd Hudson a Manhattan (y rheilffordd y daeth yn PATH) i’r terminal. Aeth y trên cyntaf o’r terminal ar 26 Chwefror 1908. Ar un adeg, roedd ar lannau Hudson 5 terminal i deithwyr ar drenau. Erbyn hyn, mae Terminal Hoboken yr unig un sy’n goroesi. Prynwyd y terminal gan Conrail ym 1976, a prynwyd y terminal oddi wrthynt ym 1983 gan New Jersey Transit. Stopiwyd y wasanaeth fferi i Manhattan is ar 22 Tachwedd 1967.[3] Ail-ddechreuodd y wasanaeth ym 1989, a daeth y llongau’n ôl i’r terminal ar 7 Rhagfyr 2011.[4] Ailadeiladwyd tŵr y terminal rhwng 2005 a 2009. Ailadeiladwyd waliau’r terminal ym 2016.[5] Roedd difrod sylweddol yn ystod Corwynt Sandy ar 29 Hydref 2012, gyda uchder 8 troedfedd o ddŵr yn nhwnneli PATH. Ail-agorwyd yr ystafell aros ym mis Ionawr 2013 er oedd gwaith trwsio dal i’w wneud.[6][7]. Ail-gychwynnodd rhai o’r trenau PATH i Manhattan ar 19 Rhagfyr, a’r gweddill erbyn 1 Mawrth 2013.[8][9][10] ![]() ![]() Digwyddiadau nodweddiadol eraillYm 1930, gyrrodd Thomas Edison y trên cyntaf i adael y terminal at Montclair, New Jersey. Roedd un o’r enghreifftiau cynnar o systemau tymherol canolog oedd yno.[11] Defnyddir yr orsaf ar gyfer ffilmiau, megis Funny Girl, Three Days of the Condor, Once Upon a Time in America, The Station Agent, The Curse of the Jade Scorpion,[12], Julie & Julia, Kal Ho Naa Ho a videos gan Rod Stewart (Downtown Train, (1990) ac Eric Clapton (Change the World, 1996". GwasanaethauComudwyrHoboken yw terminws ‘Adran Hoboken’ New Jersey Transit, yn y bôn cangenni’r hen reilffordd Lackawanna yn ngogledd New Jersey:-
Trafnidiaeth GyflymPATHMae’r wasanaeth PATH ar gael trwy’r dydd, bob dydd o 3 phlatfform tanddaearol i’r gogledd o’r platfformau ar y wyneb; mae 2 linell ar gael yn ystod y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, ac un arall gyda’r nos, a thros penwythnosau a gwyliau. Mae mynediad i’r platfformau ar gael o’r brif neuadd neu’r stryd, o dan yr orsaf fysiau. Rheilffordd YsgafnMae Hoboken yn derminws y 2 linell Rheilffordd ysgafn Hudson-Bergen.Mae’r platfformau i’r De o drac 18 ac adeilad y terminal ac mae cysylltiad i Heol 14eg ar lan Afon Hudson. ![]() FferiMae fferiau Dyfrffordd Efrog Newydd yn mynd o’r terminal i Derminal Brookfield ac i Phier 11, Heol Wall yn ddyddiol, ac i Derminal Fferi Gorllewin Canol y Ddinas rhwng Llun a Gwener’.[13] Mae gan Derminal Hoboken le i 5 fferi. BysiauMae bysiau New Jersey Transit yn defnyddio’r orsaf bws; mae le i 5 bws, ac mae 10 llinell bws. Mae bws 87 yn mynd i Jersey City o lôn 1.[14][15] Mae bws 126 yn mynd i Terminal Bws Awdurdod y Porthladd, Manhattan, ac yn defnyddio lonydd 2 a 3.[16] Mae bysiau 85 a 89 yn mynd i American Dream Meadowlands yn Dwyrain Rutherford, New Jersey neu Nungesserso lôn 4.[17][18] Mae bysiau 22,22X a 23 yn mynd i Weehawken neu [[Union City, New Jersey|Union City] o lôn 5 ac mae bysiau 63, 64 a 68 yn mynd o lôn 6 i Lakewood, Lincoln Harbor neu Old Bridge.[19][20] Trenau a enwyd![]() Hyd at y 1960au, roedd y terminal us sy’n derbyn sawl trên bwysig y rheilffyrdd Lackawanna ac Erie Lackawanna, yn cyrraedd o Buffalo, Chicago a gogledd-ddwyrain Pennsylvania. Cynllun yr adeiladau![]() Cynlluniwyd yr adeiladau gan Kenneth M. Murchison yn y dull Beaux-Arts. Adeiladwyd y terminal rheilffordd a fferi ym 1907 gan Reilffordd Delaware, Lackawanna a’r Gorllewin. Mae’r adeilad ar gofrestr New Jersey o lefydd hanesyddol.[22] a Chofrestr Genedlaethol o Lefydd Hanesyddol.[23] Ystyriwyd y brif ystafell aros yn un o’r gorau yn yr Unol Daleithiau, gyda theils gwydr lliw gan Louis Comfort Tiffany.[24] Mae gan y terminal 4 llawr gyda ffasâd yn cynnwys manylion copor. Adeiladwyd y daearlawr gyda chalchfaen o dalaith Indiana. Mae grisiau crand yn arwain at y terminal fferi. Adeiladwyd tŵr cloc yn rhan o’r adeilad gwreiddiol dros ganrif yn ôl, ond datgymalwyd y tŵr yn 1950au oherwydd ei cyflwr gwael; adeiladwyd copi o’r un gwreiddiol yn 2007. Mae’r terminal yn arwyddocaol oherwydd y cyfuno o drenau, fferi, trenau tanddaearol, tramffyrdd a cerddwyr. Ychwanegwyd bysiau a rheilffordd ysgafn yn hwyrach. Roedd y terminal yn un o’r gyntaf i gael sied trenau wedi cynllunio gan Lincoln Bush y daethant yn gyffredin dros yr Unol Daleithiau. Yr ardal a mynediad![]() Heblaw am fysiau, rhaid i gerbydau ddynesu at yr orsaf ar Blas Hudson i gasglu neu i adael teithwyr. Mae safle dacsi yno. Mae Plas Hudson yn arwain at Plaza Warrington, lle mae mynediad i’r fferiau ac i’w ystafell aros. Agorwyd rhan newydd o Lwybr Glan Afon Hudson yn 2009.[25] sy’n rhoi mynediad arall i gerddwyr. Oriel
Dolenni allanolNew Jersey Transit
Cyfeiriadau
![]() |