Cwmwd mynyddig iawn oedd Tal-y-bont, gyda chadwyn hir Cadair Idris a'i fryniau yn ei ddominyddu. Gorweddai'r prif ganolfannau ar hyd yr arfordir, ar lan ddeheuol afon Mawddach, ac yn Nyffryn Dysynni.
Rhennid y cwmwd yn ddwy ran bur gwahanol, sef Is Cregennan ac Uwch Cregennan, yn gorwedd i'r gorllewin a'r dwyrain o Lynnau Cregennan. Yn Is Cregennan roedd y "trefi" canoloesol yn cynnwys Cregennan, Llwyngwril, Peniarth a Pennant. Yn Uwch Cregennan, rhwng llethrau gogleddol Cadair Idris a Mawddach, y canolfannau pwysicaf oedd Dolgellau, Nannau, Gwanas a Brithdir. Yn rhan o Uwch Cregennan ond yn gorwedd i'r gogledd oedd plwyf Llanfachraeth sy'n codi i 734m yn Rhobell Fawr.