Dau lyn yng Ngwynedd yw Llynnau Cregennen. Safant fymryn i'r dwyrain o bentref Arthog ac i'r gorllewin o lethrau Cadair Idris, 800 troedfedd uwch lefel y môr. Mae gan y llyn mwyaf arwynebedd o 27 acer, a'r llall 13 acer.[1]
Mae'r nant o'r llyn yn llifo i mewn i afon Gwynant, sydd yn ei thro yn llifo i Afon Mawddach. Ceir pysgota am frithyll yn y ddau lyn.
Cadwraeth
Mae'r llynnoedd hyn ynghyd â'r tir o'u cwmpas hyd at graig Pared y Cefn Hir wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherywdd ei daeareg.
Cyfeiriadau
- ↑ *Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Gweler hefyd