System etholiadol 'y cyntaf i'r felin'

System etholiadol 'y cyntaf i'r felin'
Enghraifft o:system etholiadol Edit this on Wikidata
Mathsystem etholiadol 'y cyntaf i'r felin' Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

System etholiadol a ddefnyddir ar gyfer Tai'r Cyffredin yn y Deyrnas Unedig a Chanada; yn yr Unol Daleithiau ac mewn rhai gwledydd eraill yw system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn ôl y system, mae un aelod seneddol yn cael ei ethol ar gyfer pob etholaeth. Mae pleidleiswyr yn pleidleisio dros un ymgeisydd yn unig. Etholir yr ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau heb ystyried a ydy ef neu hi wedi derbyn mwyafrif absoliwt o'r cyfanswm o bleidleisiau. Mae'r system felly yn cyferbynnu â systemau etholiadol eraill, megis y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, lle mae ymgeiswyr yn gorfod ennill mwyafrif absoliwt o'r pleidleisiau, neu systemau cynrychiolaeth gyfrannol lle mae pleidiau yn derbyn seddi yn ôl canran y pleidleisiau maen nhw wedi'i hennill. Daw'r enw o'r ddihareb Gymraeg Y cyntaf i'r felin gaiff falu.

Defnyddir y system etholiadol 'y cyntaf i'r felin' heddiw ar gyfer ethol aelodau Tŷ'r Cyffredin Prydain, etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr, etholiadau i Gyngres yr Unol Daleithiau, ac ar gyfer etholiadau cenedlaethol mewn llawer o wledydd y Gymanwlad, megis Bangladesh, Botswana, India, Jamaica, Cenia, Malawi, Maleisia, Nepal, Nigeria, Pacistan, Singapôr, Wganda, Sambia a Simbabwe, a rhai y tu hwnt, megis Moroco a De Corea. Defnyddid y system hon ar gyfer etholiadau lleol yn yr Alban tan 2007, pryd y'i disodlwyd gan system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Gweler hefyd