Gwleidydd o'r Alban yw Stuart Donaldson (ganwyd 5 Medi 1991) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Orllewin Swydd Aberdeen a Kincardine; mae'r etholaeth yn siroedd Aberdeen a Swydd Aberdeen, yr Alban. Mae Stuart Donaldson yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Graddiodd gyda Gradd Meistr (MA) ym Mhrifysgol Glasgow yn 2013.[2] wedi hynny gweithiodd Donaldson i Christian Allard Aelod o Senedd yr Alban.[3]
Etholiad 2015
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[4][5] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Stuart Donaldson 22,949 o bleidleisiau, sef 41.6% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +25.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 7,033 pleidlais.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau