Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Rogiet.[1][2] Saif tua 8 milltir i'r gorllewin o dref Cas-gwent ac 11 milltir i'r dwyrain o ddinas Casnewydd, gerllaw cyffordd y traffyrdd M4 ac M48. Heblaw pentref Rogiet ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Llanfihangel Rogiet. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,620.
Tyfodd y pentref yn dilyn cwblhau Twnnel Hafren yn 1885; yma y ceir y gyffordd reilffordd a'r orsaf sy'n gwasanaethu'r twnnel.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.