Llifa Afon Mynwy heibio i'r pentref. Cysegrir eglwys Llanoronwy i'r Santes Cenedlon. Ceir ffynnon sanctaidd ger yr eglwys. Cofnododd Edward Lhuyd fod sant wedi cael ei ferthyru yno trwy dorri ei ben a bod smotiau coch ei "waed" ar gerrig y ffynnon.[3]