Roger de Puleston |
---|
Ganwyd | 13 g |
---|
Bu farw | o crogi |
---|
Swyddog o Loegr oedd Roger de Puleston (hefyd Roger Puleston, Roger Pulesdon neu Roger de Pulesdon) (bu farw 1294), a apwyntwyd yn Siryf cyntaf Sir Fôn yn 1284.[1]
Cymharol ychydig a wyddom amdano. Ar ôl i Edward I o Loegr oresgyn Tywysogaeth Cymru a Gwynedd yn 1283-84, crëwyd tair sir newydd - Sir Fôn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd - ar diriogaeth Gwynedd Uwch Conwy. Roedd angen swyddogion i reoli'r unedau newydd hyn, a seilwyd ar batrwm siroedd Lloegr, ac apwyntwyd de Puleston gan y brenin i redeg Môn yn 1284.
Daeth y Monwysion, pobl Môn, i'w gasau fel gormeswr. Yn 1294, yn ystod dyddiau cynnar gwrthryfel Madog ap Llywelyn, cipwyd Puleston gan rai o uchelwyr Môn a'i ddwyn i Gaernarfon lle cafodd ei grogi yn gyhoeddus.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ J. E. Morris, The Welsh Wars of Edward I (Rhydychen, 1901), tt. 242-243
- ↑ A. D. Carr, 'Môn yn y Canol Oesoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972)