Rhys Goch ap RhicertCyndad i'r beirdd Rhys Brydydd a Lewys Morgannwg oedd Rhys Goch ap Rhicert (bl. 12g, efallai). Ni chyfeirir ato mewn unrhyw ffynhonnell ddibynadwy heblaw'r achresi, ond daeth yn ffigwr adnabyddus yn y 19g oherwydd y lle a roddwyd iddo yn hanes llenyddiaeth Morgannwg gan Iolo Morganwg, a luniodd nifer o gerddi a'u priodoli iddo hefyd. Gwybodaeth hanesyddolGŵr o Forgannwg oedd Rhys Goch. Er ei fod yn gyndad i ddau o feirdd mawr Morgannwg yn yr Oesoedd Canol Diweddar, sef Rhys Brydydd a Lewys Morgannwg (enw go iawn: Lewys ap Rhicert), ni wyddys os oedd yn fardd ei hun neu ddim. Yn yr achres a gofnodwyd gan Gruffudd Hiraethog yn yr 16g, roedd yn wŷr i Einion ap Collwyn, gŵr sydd â lle amlwg yn hanes cynnar Morgannwg.[1] Yn ôl Iolo Morganwg, roedd yn byw yn ardal Tir Iarll ac mae'n ddigon posibl fod y traddodiad hwnnw'n ddilys.[2] Iolo MorganwgAm fod y ddau fardd enwog yn ddisgynyddion i Rys, ceisiodd Iolo Morganwg brofi mai ef oedd sefydlwr ysgol o feirdd ym Morgannwg a ganai yn null y trwbadwriaid, a hynny yn y 12g pan reolwyd y rhanbarth gan y Normaniaid. Aeth ymhellach a lluniodd gorff o ganu serch a briodolwyd ganddo i Rys. Gwyddys erbyn heddiw mai ffugiadau yw'r cerddi hyn, tua 15 ohonynt o ben a phastwn Iolo ei hun a'r lleill yn "addasiadau" o gerddi canoloesol a gafodd yn y llawysgrifau, a'u bod yn rhan o'r corff mawr o ffugiadau llenyddol a thraddodiadau a ddyfeiswyd gan Iolo er mwyn dyrchafu lle Morgannwg yn hanes a llenyddiaeth Cymru.[3] Er hynny, mae'r ffugiadau hyn yn cynnwys rhai o gerddi gorau Iolo, sy'n cael ei ystyried gan feirniaid diweddar yn fardd rhamantaidd o bwys. Am y cerddi a dadogir ar Rys Goch, dywed P. J. Donovan, "Pe bai'r cerddi hyfryd hyn yn perthyn i feirdd Morgannwg, byddai traddodiad o ganu rhydd godidog iawn yn perthyn i'r sir honno."[4] CyfeiriadauLlyfryddiaeth
|