Mae rhai elfennau wedi eu hadnabod am filoedd o flynyddoedd, ac eraill wedi eu darganfod yn y blynyddoedd a chanrifoedd diwethaf.
Cyn y 12fed ganrif
Nid yw'n bosib rhoi dyddiad penodol ar gyfer darganfyddiad cyntaf yr elfennau hyn.
- copr (Cu; rhif atomig 29)
- plwm (Pb; rhif atomig 82)
- aur (Au; rhif atomig 79)
- arian (Ag; rhif atomig 47)
- haearn (Fe; rhif atomig 26)
- carbon (C; rhif atomig 6)
- tun (Sn; rhif atomig 50)
- sylffwr (S; rhif atomig 16)
- mercwri (Hg; rhif atomig 80)
Mae awgrymiadau i alwminiwm gael ei ddarganfod yn ystod y cyfnod Rhufeinig, ond nid oes tystiolaeth gadarn am hyn felly rhoddir y clod i Hans Christian Ørsted a'i darganfu ym 1825.
- 1901 - Ewropiwm (Eu; rhif atomig 63): Darganfuwyd gan Eugène-Antole Demarçay.
- 1907 - Lwtetiwm (Lu; rhif atomig 71): Darganfuwyd gan Georges Urbain
- 1917 - Protactiniwm (Pa; rhif atomig 91): Darganfuwyd gan Lise Meitner ac Otto Hahn
- 1923 - Haffniwm (Hf; rhif atomig 72): Darganfuwyd gan Dirk Coster
- 1925 - Rheniwm (Re; rhif atomig 75): Darganfuwyd gan Walter Noddack ac Ida Tacke
- 1937 - Technetiwm (Tc; rhif atomig 43): Darganfuwyd gan Carlo Perrier
- 1939 - Ffransiwm (Fr; rhif atomig 87): Darganfuwyd gan Marguerite Derey
- 1940
- 1941 - Plwtoniwm (Pu; rhif atomig 94): Darganfuwyd gan Glenn T. Seaborg, Arthur C. Wahl, Joseph W. Kennedy ac Emilio G. Segrè
- 1944 - Curiwm (Cm; rhif atomig 96): Darganfuwyd gan Glenn T. Seaborg
- 1945
- 1949 - Berkeliwm (Bk; rhif atomig 97): Darganfuwyd gan Albert Ghiorso, Glenn T. Seaborg, Stanley G. Thompson a Kenneth Street Jr.
- 1950 - Califforniwm (Cf; rhif atomig 98): Darganfuwyd gan Albert Ghiorso, Glenn T. Seaborg
- 1952 - Einsteiniwm (Es; rhif atomig 99): Darganfuwyd gan Labordy Argonne, Labordy Los Alamos, a Phrifysgol Califfornia
- 1953 - Ffermiwm (Fm; rhif atomig 100): Darganfuwyd gan Labordy Argonne, Labordy Los Alamos, a Phrifysgol Califfornia
- 1955 - Mendelefiwm (Md; rhif atomig 101): Darganfuwyd gan Glenn T. Seaborg ac Evans G. Valens
- 1958 - Nobeliwm (No; rhif atomig 102): Darganfuwyd gan Athrofa Ffiseg Nobel. Ar ôl Alfred Nobel.
- 1961 - Lawrenciwm (Lr; rhif atomig 103): Darganfuwyd gan Albert Ghiorso. Ar ôl Ernest Lawrence.
- 1964 - Rutherfordiwm (Rf; rhif atomig 104): Darganfuwyd gan yr Athrofa Ymchwil Niwclear yn Dubna, Rwsia.
- 1970 - Dubniwm (Db; rhif atomig 105): Darganfuwyd gan Albert Ghiorso. Enwyd ar ôl Dubna, Rwsia.
- 1974 - Seaborgiwm (Sg; rhif atomig 106): Darganfuwyd gan yr Athrofa Ymchwil Niwclear? a Phrifysgol Califfornia, Berkeley
- 1976 - Bohriwm (Bh; rhif atomig 107): Darganfuwyd gan Y. Oganessian et al, Dubna a chadarnhawyd gan GSI (Gesellschaft für Schwerionenforschung mbH) yn 1982
- 1982 - Meitneriwm (Mt; rhif atomig 109): Darganfuwyd gan Peter Armbruster a Gottfried Münzenberg, GSI (Gesellschaft für Schwerionenforschung mbH)
- 1984 - Hasiwm (Hs; rhif atomig 108): Darganfuwyd gan Peter Armbruster a Gottfried Münzenberg, GSI (Gesellschaft für Schwerionenforschung mbH)
- 1994
- Darmstadtiwm (Ds; rhif atomig 110): Darganfuwyd gan S. Hofmann, V. Ninov et al, GSI (Gesellschaft für Schwerionenforschung mbH)
- Roentgeniwm (Rg; rhif atomig 111): Darganfuwyd gan S. Hofmann, V. Ninov et al, GSI (Gesellschaft für Schwerionenforschung mbH)
- 1996 - Coperniciwm (Cn; rhif atomig 112): Darganfuwyd gan S. Hofmann, V. Ninov et al, GSI (Gesellschaft für Schwerionenforschung mbH)
- 1999 - Fflerofiwm (Fl; rhif atomig 114): Darganfuwyd gan yr Athrofa Ymchwil Niwclear yn Dubna, Rwsia