Actiniwm
|
|
|
Symbol
|
Ac
|
Rhif
|
89
|
Dwysedd
|
10 g/cm³
|
Elfen gemegol ymbelydrol ydy actiniwm gyda'r symbol Ac
a'r rhif atomig 89 yn y tabl cyfnodol.
Mae'n arian o ran lliw ac oherwydd ei allu ymbelydrol uchel, mae'n disgleirio'n las golau yn y tywyllwch. Mae 150 gwaith yn gryfach ei ymbelydredd na radiwm.
Mae ganddo 36 isotop, y mwyaf sefydlog ydy 227Ac gyda'i hanner oes yn 21.772 blwyddyn.
Cafodd ei ddarganfod yn 1899 a hynny gan y cemegydd Ffrengig André-Louis Debierne. Daw'r gair allan o'r hen Roeg aktis, aktinos (ακτίς, ακτίνος), sy'n golygu pelydryn o olau.