Protactiniwm
|
|
|
Symbol
|
Pa
|
Rhif
|
91
|
Dwysedd
|
15.37 g/cm³
|
Elfen gemegol gwan o ran ymbelydredd a ganfyddir yn naturiol yn y ddaear ydy protactiniwm sydd â'r symbol Pa
a'r rhif atomig 91 yn y tabl cyfnodol.
Mae'n fetal prin a hynod o ymbelydrol.
Mae ganddo 29 isotop, y mwyaf sefydlog ydy 231Pa gyda'i hanner-oes o 32760 blwyddyn.
Er i Crookes wahanu'r metal oddi wrth iwraniwm yn 1900, y ddau cemegydd Kasimir Fajans a O. H. Göring wnaeth ei adnabod fel metal newydd a'i enwi'n brevium gan fod un isotop ohono â hanner-oes o ddim ond 1.17 munud. Ystyr y gair Lladin brevium ydy ' 'byr' neu 'oes fer'. Yn 1918 newidiwyd yr enw i Protactiniwm sy'n dod o'r iaith Roeg πρῶτος + ἀκτίς sef "elfen y pelydr cyntaf").