Ras gyfnewid hwyliog er lles y Gymraeg yw Ras yr Iaith a sefydlwyd gan Siôn Jobbins, ar batrwm rasys iaith eraill fel ar Redadeg (Llydaw), Korrika (Gwlad y Basg) a'r Rith (Iwerddon). Trefnwyd Ras yr Iaith 2014 gan wirfoddolwyr lleol o dan arweiniad Cered: Menter Iaith Ceredigion ond bellach mae wedi tyfu y tu hwnt i Geredigion ac mae'n cael ei gydlynu yn genedlaethol gan Fentrau Iaith Cymru. Un o amcanion y ras yw codi arian, ac mae unrhyw elw a wneir yn cael ei fuddsoddi ar ffurf grantiau i hyrwyddo'r Gymraeg yn ardal y Ras.
Trefniant
Cynhaliwyd Ras yr Iaith am y tro cyntaf yn 2014. Yn wahanol i rasys y gwledydd eraill, dim ond yn y trefi y bydd Ras yr Iaith yn rhedeg. Yn wahanol hefyd i rasys Gwlad y Basg a Llydaw, nid yw'n rhedeg yn ddi-dor, ddydd a nos. Gweinyddir Ras yr Iaith gan gwmni Rhedadeg Cyf, a sefydlwyd gan Siôn Jobbins. Mae grwpiau, busnesau, cynghorau cymuned, ysgolion neu unigolion yn talu £50 i noddi a rhedeg cilomedr. Codir arian hefyd gan noddwyr masnachol.
Noddwyd cilomedrau'r Ras gan amrywiaeth eang o noddwyr yn talu £50, gan gynnwys busnesau, ysgolion, capeli, clybiau a chyrff cyhoeddus. O'r arian nawdd a godwyd gan noddwyr a rhedwyr y Ras, llwyddwyd i ddosbarthu gwerth £4,000 o grantiau i hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardaloedd lle rhedwyd y Ras.
Ras 2016
Cynhaliwyd y Ras dros dri diwrnod gyda chydweithrediad agos sawl un o Fentrau Iaith Cymru, gyda Siôn Jobbins yn cydlynu. Rhedwyd drwy ganol trefi ond nid rhyngddynt. Cafwyd cefnogaeth Dewi Pws unwaith eto, a bu sawl person amlwg yn rhedeg ac yn cefnogi gan gynnwys y cyflwynydd teledu a'r dyfarnwr, Owain Gwynedd, a redodd y diwrnod cyntaf i gyd, a'r cyflwynydd teledu a'r rhedwraig brofiadol Angharad Mair a fu'n rhedeg yng Nghaerfyrddin.
Bu cyngherddau fin nos yng nghastell Aberteifi i ddathlu'r Ras (nos Iau 7 Gorffennaf) ac yn Nhŷ Newton, Llandeilo (nos Wener 8 Gorffennaf).
Cynhaliwyd Ras 2018 unwaith eto dros dri diwrnod ond gan estyn tiriogaeth y Ras i'r dwyrain ac i Fôn am y tro cyntaf. Trefnwyd y Ras gan Fentrau Iaith Cymru mewn cydweithrediad gyda chwmni Rhedadeg Cyf.
Bu Dewi Pws Morris yn gyfrifol am arwain y Ras ar Ddiwrnod 1 (dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018) gan godi hwyl a chadw trefn o gefn fan y Ras fel y gwnaeth yn y ddwy Ras flaenorol. Mewn trefi eraill cafwyd enwogion eraill neu Brif Weithredwr Mentrau Iaith Cymru, Heledd ap Gwynfor. Gweler enwau'r enwogion wrth ymyl y trefi lle buont yn arwain.
Erbyn 2020 roedd Mentrau Iaith Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb llawn o'r Ras oddi ar Rhedadeg Cyf. Yn anffodus, oherwydd Covid-19 fe ohiriwyd y Ras yn 2020. Yn ei lle cynhaliwyd Ras123 gan alw ar i bobl redeg yn lleol i'w cartref eu hunain. Cafwyd negeseuon o gefnogaeth gan amryw o wynebau amlwg y byd Cymraeg.
Ras 2023
Cafwyd newid i drefn y Ras yn 2023. Gan weithio drwy'r Mentrau Iaith lleol ac ysgolion cynhaliwyd Ras yr Iaith i gyd ar un diwrnod - 22 Mehefin 2023. Yn hytrach na phasio'r baton o un dref i'r llall dros gyfres o ddiwrnodau, cynhaliwyd bob ras lleol ar yr un diwrnod. Er hwylustod a diogelwch cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r rhediadau mewn parciau neu ar hyd llwybrau cerdded.
Cynhaliwyd Rasys yr Iaith lleol ar y diwrnod hwnnw gyda phlant ysgol gynradd, gan fwyaf, yn rhedeg yn: Nefyn, Llangefni, Rhyl, Cei Conna, Aberystwyth, Abergwaun, Rhydaman, Llanelli, Abertawe, Caerffili, Pont-y-pŵl, Pontypridd, Porthcawl, a'r Barri.
Oriel
Baton Ras yr Iaith gyda rôl neges y Ras tu fewn
Ras yr iaith, Llanbedr Pont Steffan (2014)
Fan Ras yr Iaith, Stryd y Brenin, ger Eglwys San Pedr, Caerfyrddin (2018)
Placard noddwyr a phellter, Ras yr Iaith Aberystwyth, 2018