Llenor o Gatalwnia yw Quim Monzó (ynganiad = Cim Mŵnsô), sy'n enw farddol Joaquim Monzó i Gómez (ganwyd Barcelona, 24 Mawrth 1952). Mae'n awdur nofelau, straeon ac erthyglau barn, yn bennaf yn yr iaith Catalaneg. Fe'i ddisgrifiwyd fel "un o ysgrifenwyr straeon byrion gorau'r byd".[1]
Bywgraffiad
Astudiodd dylunio graffig yn Barcelona a gweithiodd fel dylunydd graffeg. Daeth yn ysgrifennwr sgriptiau teledu ac wedyn newyddiadurwr. Anfonodd adroddiadau o Fietnam, Cambodia. Gogledd Iwerddon, ac ynysoedd Cefnfor India.
Daeth i sylw'r cyhoedd fel awdur ym 1976 pan gyhoeddwyd ei nofel L'udol del griso a les clavegueres ("Llef llwyd yn y carthffosydd") sydd yn seiliedig yn wrthdystiadau Ffrainc Mai 1968. Ers hynny mae Monzó wedi cyhoeddi dros ddwsin o nofelau eraill gan ennill prif wobrau llenyddol Catalwnia.
Mae Monzó wedi cyfieithu sawl awdur o Saesneg i Gataleneg, gan gynnwys Truman Capote, J. D. Salinger, Ray Bradbury, Thomas Hardy, Harvey Fierstein, Ernest Hemingway, Roald Dahl, ac Arthur Miller. Yn 2017 cyhoeddwyd ei gyfieithiad o Frankenstein gan Mary Shelley.
Yn 2007 fe'i wahoddwyd i cyflwyno'r araith agoriadol yn Ffair Lyfrau Frankfurt a darllenodd darn o waith creadigol oedd yn dra gwahanol i araith draddodiadol.
Mae Monzó yn ddioddefwr syndrom Tourette, sy'n ei achosi ticiau ysbeidiol i gyhyrau ei wyneb.[2][3]
Gweithiau
Nofelau
- 1976: L'udol del griso al caire de les clavegueres (Llef llwyd yn y carthffosydd)
- 1977: Self Service gyda Biel Mesquida
- 1978: Uf, va dir ell (Awtsh, meddai fe)
- 1980: Olivetti, Moulinex, Chaffoteaux et Maury
- 1983: Benzina
- 1985: L'illa de Maians (Ynys y Maian)
- 1989: La magnitud de la tragèdia (Maint y drychineb)
- 1993: El perquè de tot plegat (Y Pam o bod dim)
- 1996: Guadalajara
- 1999: Vuitanta-sis contes (Wyth-deg chwech o straeon)
- 2001: El millor dels mons (Y gorau o'r bydau)
- 2003: Tres Nadals (Tri Nadoig)
- 2007: Mil cretins (Mil o Gretiniaid )
Cyfrolau erthyglau
- 1984: El dia del senyor (Dydd yr Arglwydd)
- 1987: Zzzzzzzz
- 1990: La maleta turca (Y siwtcês Trwceg)
- 1991: Hotel Intercontinental
- 1994: No plantaré cap arbre (Dwi ddim am blannu unrhyw goeden) .
- 1998: Del tot indefens davant dels hostils imperis alienígenes (Yn gwbl ddi-amddifyn o flaen ymerodraethau arallfydol bygythiol)
- 2000: Tot és mentida (Mae i gyd yn gelwydd)
- 2003: El tema del tema (Thema'r pwnc)
- 2004: Catorze ciutats comptant-hi Brooklyn. (14 o ddinasoedd yn cyfrif Brooklyn).
- 2010: Esplendor i glòria de la Internacional Papanates (Splendor a gogoniant y ffyliaid rhngwladol)
- 2017: Taula i barra. Diccionari de menjar i beure (Bwrdd a bar. Geiriadur bwyd a diod)
Cyfeiriadau