Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 83,729.[2] Mae Caerdydd 212.3 km i ffwrdd o Benbedw ac mae Llundain yn 288.5 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 7.6 km i ffwrdd.
Dechreuwyd y dywidiant adeiladu llongau ym 1829.[4] Sefydlwyd gwaith haearn gan William Laird ym 1824. Ymunoedd ei fab John Laird â’r prosiect ym 1828. Daeth y cwmni Cammell Laird.
Statws
Ar un adeg, oedd Penbedw yn rhan o blwyf Bidston. Daeth Penbedw yn fwrddeistref drefol ym 1877, ac yn fwrddeistref sirol yn 1888. Roedd plwyf Penbedw Santes Fair, Bidston, Claughton, Oxton, Tranmere, a rhan o Bebington yn rhan o’r fwrddeistref. Ychwanegwyd Landican, Prenton a Thingwall ym 1928, a Noctorum, Upton a Woodchurch ym 1933.[5] Hyd at 1af Ebrill 1974, roedd Penbedw a gweddill Cilgwri yn rhan o Swydd Gaer; wedyn collodd Penbedw ei statws fel bwrddeistref sirol, a daeth yn rhan o Fwrddeistref Cilgwri yn Sir Glannau Merswy.
Trafnidiaeth
Fferiau
Dechreuodd y wasanaeth fferi gyntaf dros yr afon yn 1150.[6] Dechreuodd gwasanaeth fferi stêm rhwng Tranmere a Lerpwl ym 1817 ac un rhwng Woodside a Lerpwl ym 1822.[7]