Tref lan-môr yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Southport.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Sefton.
Lleolir y dref ar lan Môr Iwerddon, 16.5 milltir (26.6 km) i'r gogledd o Lerpwl a 14.8 milltir (23.8 km) i'r de-orllewin o Preston.Yn hanesyddol, bu'n rhan o Swydd Gaerhirfryn. Mae Caerdydd 241.5 km i ffwrdd o Southport ac mae Llundain yn 307.4 km. Y ddinas agosaf ydy Preston sy'n 22.4 km i ffwrdd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Southport boblogaeth o 91,703.[2]
Mae atyniadau twristaidd yn cynnwys Pier Southport, yr ail fwyaf o'i fath yng ngwledydd Prydain, Stryd Lord (Lord Street), a fu'n gartref i Napoleon III o Ffrainc, a ffair enwog a agorwyd yn 1912.
Enwogion
Cyfeiriadau
Dolenni allanol