Cilgwri

Cilgwri
Mathgorynys, coedwig frenhinol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawMôr Iwerddon, Afon Dyfrdwy, Afon Merswy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3°N 3°W Edit this on Wikidata
Map

Penrhyn sy'n gorwedd rhwng aber Afon Dyfrdwy ac Afon Merswy yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Cilgwri (Saesneg: The Wirral). Tan yn ddiweddar roedd rhan orllewinol a deheuol Cilgwri yn rhan o Sir Gaer a'r rhan ddwyreiniol yn rhan o Lannau Merswy. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o Gilgwri yn cael ei gweinyddu gan Bwrdeistref Fetropolitan Cilgwri.

Delwedd lloeren o'r penrhyn

Mae'r rhan fwyaf o'r penrhyn yn dir isel, gwastad. Mae'r canolfannau diwydiannol yn cynnwys Penbedw (Birkenhead), Port Sunlight ac Ellesmere Port. Mae'r trefi eraill yn cynnwys Wallasey a New Brighton, Heswall a West Kirby.

Cysylltiadau Cymreig

Yn y chwedl Gymraeg Canol Culhwch ac Olwen, 'Mwyalch Gilgwri' yw un o'r Anifeiliaid Hynaf yn y byd, ac mae'n cael ei holi gan Cei, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Bedwyr ac Eidoel ble mae Mabon.

Ar ei ffordd i Ogledd Cymru mae Gawain, arwr Celtaidd y gerdd Saesneg Canol, Syr Gawayn and the Grene Knygt, yn pasio trwy Gilgwri sy'n cael ei disgrifio fel the wyldernesse of Wyrale (J. R. R. Tolkien (gol.), Sir Gawain and the Green Knight (Rhydychen, ail argraffiad 1967).

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Glannau Merswy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato