Patrick Swayze |
---|
|
Ganwyd | Patrick Wayne Swayze 18 Awst 1952 Houston |
---|
Bu farw | 14 Medi 2009 Los Angeles |
---|
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
---|
Alma mater | - Coastal Carolina University
- San Jacinto College
- Waltrip High School
|
---|
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, actor, dawnsiwr, canwr, coreograffydd, actor llais, cynhyrchydd ffilm, aikidoka |
---|
Adnabyddus am | Ghost |
---|
Taldra | 1.78 metr |
---|
Tad | Jesse Wayne Swayze |
---|
Mam | Patsy Swayze |
---|
Priod | Lisa Niemi |
---|
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
---|
Chwaraeon |
---|
Actor, cerddor a dawnsiwr Americanaidd oedd Patrick Wayne Swayze (18 Awst 1952 – 14 Medi 2009[1]). Fe gafodd ei eni yn Houston, Texas a phriododd Lisa Nemi ym 1975. Fe'r oedd yn enwog yn bennaf am chwarae'r brif ran rhamantaidd mewn ffilmiau megis Dirty Dancing (1987) a Ghost (1990). Fe dderbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am ei ran yn "Ghost," ynghyd â'i berfformiadau yn Red Dawn (1984), Road House (1989), a Point Break (1991). Ym 1991, fe gafodd ei restru yng nghylchgrawn "People" fel Y Dyn Mwyaf Rhywiol.
Ym mis Ionawr 2008, fe gafodd ef ddiagnosis am gancr y pancreas, cyfnod 4, ac mae ef wedi bod yn brwydro'r afiechyd yn gyhoeddus. Fe ddywedodd ef wrth Barbara Walters ym mis Ionawr 2009 ei fod yn "trechu'r clefyd".[2] Fodd bynnag, bu farw o'r afiechyd wyth mis yn ddiweddarach. Ei rôl actio olaf oedd y prif ran mewn cyfres ddrama deledu, "The Beast" a leolir mewn ysbyty, a ddechreuodd ddarlledu ar y 15fed o Ionawr, 2009. Serch hynny, am fod iechyd Swayze wedi parhau i ddirywio, nid oedd ef yn medru hyrwyddo'r gyfres ac ar y 15 Mehefin, 2009 cyhoeddodd Entertainment Tonight fod y y gyfres wedi cael ei dileu.
Bywgraffiad
Ei flynyddoedd cynnar
Ganwyd Patrick Swayze ar 18 Awst, 1952 yn Houston, Texas, yn blentyn cyntaf i Patsy Yvonne Helen (née Karnes; g. 1927), coreograffwraig, hyfforddwraig ddawns, a Jessie Wayne Swayze (1925-1982), dyluniwr peirianyddol. Roedd ganddo ddu frawd iau, yr actor Don (ganed 1958) a Sean Kyle (ganed 1962), a dwy chwaer, Vicky Lynn (1949-1994) a Bambi, a gafodd eu mabwysiadu gan y teulu. Daeth ei gyfenw o enw un o'i gyn-deidiau Seisnig o'r enw "Swasey" a fewnfudodd i'r Unol Daleithiau
Tan ei fod yn 20 oed, trigai Swayze yng nghymdogaeth Oak Forest yn Houston, lle mynychodd Ysgol Gatholig y Santes Rose o Lima, Ysgol Gynradd Oak Forest, Ysgol Black Middle, ac Ysgol Uwchradd Waltrip. Yn ystod y cyfnod hwn, cymerodd ran mewn nifer o weithgareddau artistig ac athletaidd, megis sglefrio iâ, ballet clasurol ac actio mewn dramâu ysgol. Astudiodd gymnasteg am ddwy flynedd yn y Coleg San Jacinto cyfagos.
Ym 1972, symudodd i Ddinas Efrog Newydd er mwyn cwblhau ei hyfforddiant dawns ffurfiol yn ysgolion ballet Harkness a Joffrey.
Ei yrfa
Swydd broffesiynol cyntaf Swayze oedd fel dawnsiwr ar gyfer Disney on Parade. Serennodd fel Danny Zuko yng nghynhyrchiad hir-dymor theatr Broadway o Grease cyn cafodd ei rôl gyntaf mewn ffilm fel "Ace" yn Skatetown, U.S.A.. Ymddangosodd fel Pvt. Sturgis yn y rhaglen "Blood Brothers" yn y gyfres deledu M*A*S*H* ac ym 1982 cafodd gyfnod byr ar y gyfres deledu "The Renegades" lle chwaraeodd rhan Bandit, sef arweinydd y giang. Daeth Swayze yn adnabyddus yn y diwydiant ffilm ar ôl iddo ymddangos yn The Outsiders fel brawd hŷn
C. Thomas Howell a Rob Lowe. Ail-unwyd Swayze, Howell, a ffrind Howell - Darren Dalton yn y ffilm Red Dawn y flwyddyn olynol, ac ail-unwyd Lowe a Swayze yn Youngblood. Ystyriwyd Swayze fel aelod o'r Brat Pack. Cafodd ei lwyddiant mawr cyntaf yn y gyfres deledu North and South ym 1985, a oedd wedi ei lleoli yn Rhyfel Annibyniaeth America.
Ffilmyddiaeth
Cyfeiriadau