Ffilm gomedi rhamantus yw Dirty Dancing (1987) a enillodd Wobr yr Academi. Ysgrifennwyd y ffilm gan Eleanor Bergstein a chafodd ei chyfawryddo gan Emile Ardolino. Mae'r ffilm yn serennu Jennifer Grey, Patrick Swayze, Cynthia Rhodes, a Jerry Orbach. Adrodda'r ffilm siwrnai merch ifanc yn ei harddegau wrth iddi ddatblygu'n wraig yn gorfforol ac yn emosiynol, yn sgîl ei pherthynas gyda choreograffwr tra ar wyliau teuluol. Mae tua traean o'r ffilm yn olygfeydd dawns a oedd wedi'u coreograffio gan Kenny Ortega (a weithiodd yn ddiweddarach ar High School Musical). Mae golygfa ddawns olaf y ffilm wedi cael ei ddisgrfio fel "yr olygfa ddawns mwyaf tebygol o achosi croen gwydd yn hanes ffilmiau".[1]
Cast
Cyfeiriadau