Cyhoeddwr papurau newydd Prydeinig sy'n eiddo i gwmni Rupert Murdoch, News Corporation, ydy News International Ltd. Tan fis Mehefin 2002, ei enw oedd News International ccc.[1]
Mae News International Ccc yn rhan o News Corporation. Cafodd rhan o'i hasedau, y News of the World ei lusgo i mewn i sgandal hacio ffonau ac o ganlyniad cafodd ei gau, gyda'r rhifyn olaf o'r papur yn cael ei gyhoeddi ar 10 Gorffennaf, 2011.
Cyhoeddir prif deitlau'r cwmni gan dri is-gwmni, Times Newspapers Ltd, News Group Newspapers[1] a NI Free Newspapers Limited. Tan 2010 ysgrifennwyd y papurau hyn i gyd ar safle fawr yn Wapping yn nwyrain Llundain, ger Tower Hill, ac enillodd y ffugenw "Fortress Wapping" ar ôl anghydfod chwerw gyda'r undeb yr arferai'r gweithlu fod yn rhan ohono. Bellach, argraffir y papurau yn Broxbourne, Lerpwl a Lanarkshire (y wasg argraffu mwyaf a chyflymaf yn y byd).[2]
Rhwng 1987 a 1995, trwy ei is-gwmni News (UK) Ltd, roedd News International yn berchen ar Today, y papur newydd cyntaf yn y DU i gael ei argraffu mewn lliw. ac eithrio The London Paper a lansiwyd yn 2006, sefydlwyd holl bapurau News International gan berchnogion eraill, gyda rhai ohonynt yn mynd yn ôl cannoedd o flynyddoedd.
Cyfeiriadau