Rebekah Brooks |
---|
Ganwyd | 27 Mai 1968 Warrington |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Alma mater | - London College of Communication
|
---|
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
---|
Swydd | prif olygydd, prif weithredwr, prif weithredwr |
---|
Priod | Charlie Brooks, Ross Kemp |
---|
Newyddiadurwraig a chyn-olygydd papur newydd Seisnig ydy Rebekah Mary Brooks (ganed Wade, 27 Mai 1968). Hi oedd prif weithredwr News International o 2009 a 2011, wedi iddi weithio fel golygydd ieuengaf ar bapur newydd Prydeinig pan oedd yn gweithio ar y News of the World[1]
(o 2000 tan 2003) ac fel golygydd benywaidd cyntaf The Sun[2] (o 2003 tan 2009). Priododd yr actor Ross Kemp yn 2002 (ond ni chymrodd ei gyfenw); yn 2009 ysgarodd y ddau,[3] a phriododd y cyn-hyfforddwr rasio ceffylau a'r awdur Charlie Brooks.
Mae Brooks yn ffigur blaenllaw yn sgandal hacio ffonau News International, gan mai hi oedd golygydd News of the World pan haciwyd ffonau'n anghyfreithlon gan y papur newydd. Ar 15 Gorffennaf 2011, ymddiswyddodd Brooks fel prif weithredwr News International, yn sgil beirniadaeth o'i rôl hi yn y sgandal.[4] Ar 17 Gorffennaf 2011, cafodd ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i rhyng-gipio cyfarthrebiadau ac ar amheuaeth o lygredigaeth - trwy roi taliadau anghyfreithlon i swyddogion cyhoeddus.[5][6] Ar 13 Mawrth 2012, cafodd ei harestion unwaith eto ar amheuaeth o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.[7] Ar 15 Mai 2012, cyhuddwyd Brooks o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.[8] Mewn ymateb i hyn, dywedodd Brooks ei bod ei "drysu" gan y penderfyniad hwn.[9]
Ymddangosodd Brooks a'i gŵr yn Llys Ynadon San Steffan ar 13 Mehefin ar gyhuddiadau'n gysylltiedig â'r sgandal hacio ffonau. Dywedodd y Barnwr Ardal Howard Riddle y byddai'r achos yn erbyn y diffynyddion yn digwydd yn hwyrach yn Llys y Goron Southwark. Rhoddwyd fechnïaeth i Brooks a'i gŵr tan 22 Mehefin.
Ar 24 Gorffennaf 2012, cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron y byddai Brooks, ynghyd â chwech chyn-aelod o staff o'r News of the World, yn cael eu cyhuddo o gynllwynio i ryng-gipio cyfathrebiadau heb hawl cyfreithiol, rhwng 3 Hydref 2000 a'r 9 Awst 2006. Yn ogystal â'r cyhuddiad "generig" hwn, cyhuddwyd Brooks gyda phedwar achos penodol o gynllwynio i ryng-gipio cyfathrebiadau heb hawl cyfreithiol. Roedd y cyhuddiadau hyn yn ymwneud â hacio pheiriant ateb ffôn symudol y ferch ysgol a lofruddiwyd, Milly Dowler.
Cyfeiriadau