Gwleidydd o'r Alban yw Natalie McGarry (ganwyd 7 Medi 1981) a oedd yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Glasgow rhwng 2015 a 2017. Mae Natalie'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae Tricia Marwick yn fodryb iddi.
Cafodd ei geni a'i magu yn Inverkeithing, Fife, a mynychodd yr ysgol uwchradd yn Dunfermline, cyn iddi astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberdeen. Yna bu'n gyfrifol am bolisiau elusen cenedlaethol.[1][2]
Cyd-sefydlodd y grŵp Women for Independence,[3] Mae McGarry yn aelod amlwg o'r SNP ac wedi'u cynrychioli nifer o weithiau ar y cyfryngau gan gynnwys y rhaglen boblogaidd Scotland Tonight.
Etholiad 2015
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[4][5] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Natalie McGarry 24116 o bleidleisiau, sef 56.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 32.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 10387 pleidlais.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau