Cadwyn o fynyddoedd yng nghanol Asia yw Mynyddoedd Sayan (Rwseg: Саяны; Mongoleg: Соёоны нуруу) sy'n gorwedd rhwng gogledd-orllewin Mongolia a de Siberia, Rwsia.
Fe'u rhennir yn ddwy ran. Mae'r mynyddoedd Sayan Dwyreiniol yn ymestyn am 1,000 km (621 milltir) o Afon Yenisei (92° Dw) i ben de-orllewinol Llyn Baikal yn Oblast Irkutsk (106° Dw). Mae'r Sayan Gorllewinol yn ffurfio estyniad i'r dwyrain o'r Mynyddoedd Altai, gan ymestyn am 500 km (311 milltir) o 89° Dw i ganol y Sayan Dwyreiniol at 96° Dw.
Mae'r mynyddoedd uchel a'r llynnoedd niferus a geir i'r de o weriniaeth Tuva yn darddle i'r llednentydd niferus sy'n ymuno'n is i lawr ar wastadedd Siberia i ffurfio Afon Yenisei, un o'r afonydd mwyaf yn Rwsia, sy'n llifo i'r gogledd am 2,000 km i aberu yng Nghefnfor yr Arctig.
Copa uchaf Mynyddoedd Sayan yw Monkh Saridag (3,492 m - 11,457 tr).