Copa uchaf Mynyddoedd Sayan yng nghanol Asia yw Mönkh Saridag (hefyd Munku-Sardyk; Mongoleg: Мөнх сарьдаг, sef "nodwydd tragwyddol"). Ei uchder yw 3,491 meter (11,453 troedfedd) ac mae'n gorwedd ar y ffin ryngwladol rhwng Mongolia a Rwsia. Yn ogystal, hwn yw'r mynydd uchaf yng ngweriniaeth Buryatia ac yn nhalaith Khövsgöl ym Mongolia. Ar yr ochr ddeheuol ym Mongolia mae coed yn tyfu hyd at 2000 meter, a hyd at 2200 meter ar yr ochr ogleddol yn Rwsia.