Actores a chyfarwyddydd theatr o Gymru yw Morfudd Hughes (ganwyd 28 Mai1961). Mae'n wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers y 1980au. Bu'n portreadu cymeriadau amlwg mewn cyfresi poblogaidd S4C fel Pengelli a Rownd a Rownd. Portreadodd y prif gymeriadau yn y ffilmiau Fel Dail ar Bren (1986), Yma i Aros (1989), Sigaret? (1991) a Branwen (1994). Sefydlodd gwmni Theatr y Dyfodol gyda'r actor Wynford Ellis Owen yn dilyn astudio cwrs cyfarwyddo gyda Sam Kogan yn Llundain.