- Erthygl am y ffilm yw hon. Gweler hefyd Branwen (gwahaniaethu).
Ffilm ddrama Gymraeg yw Branwen (1994) a gyfarwyddwyd gan Ceri Sherlock. Mae'n fersiwn modern o chwedl Branwen ac fe'i seiliwyd ar ddrama lwyfan gan Gareth Miles.
Crynodeb
Mae Branwen yn ymgyrchydd iaith sy’n medru’r Gymraeg a’r Wyddeleg. Mae’n chwaer i Mathonwy, aelod o’r fyddin Brydeinig, ac mae’n briod â Kevin, sy’n aelod o’r IRA. Dadlenna’r ffilm y rhyngberthnasau grymus rhwng cariad, crefydd, gwleidyddiaeth, yr IRA a’r fyddin Brydeinig.
Cast a chriw
Prif gast
- Morfudd Hughes (Branwen Roberts)
- Richard Lynch (Kevin McCarthy)
- J. O. Roberts (Y Parch. Llion Roberts)
- Robert Gwyn Davin (Mathonwy Roberts)
- Alun Elidyr (Peredur Roberts)
Cast cefnogol
- Donal – Ian McElhinney
- Eilish – Marie Jones
- Seamus – Mark Mulholland
- Paddy – Alan Craig
- Breda – Rhoda Armstrong
- Brian – James Duran
- Y Tad Ciarán Armstrong – Tim Loane
- Dominic McCarthy – Kevin Reynolds
- Huw Arwel Evans – Huw Llŷr
- Eamon – Michael McKnight
- Gerry – David Calvert
- Anto – Tom Magill
- Imelda – Nuala McKeever
- Capten Carolyn Angel – Melanie Walters
- Y Cadfridog Harkness – Bernard Latham
Dylunio
Sain
Cydnabyddiaeth eraill
- Comisiynydd Drama S4C – Dafydd Huw Williams
- Golygydd Sgript S4C – Dwynwen Berry
- Cyfarwyddydd cynyrchiadau Teliesyn – Carmel Gahan
- Rheolwr Cynhyrchu – Maurice Hunter
- Cynllunydd Gwisgoedd – Gary Lane
- Cynllunydd Coluro – Catherine Davies
Manylion technegol
Tystysgrif Ffilm: Untitled Certificate
Fformat Saethu: Super 16mm
Math o Sain: Dolby
Lliw: Lliw
Cymhareb Agwedd: 1.85:1
Lleoliadau Saethu: Llanbedr-y-fro, Cymru; Belffast, Gogledd Iwerddon
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau
|
Blwyddyn
|
Gwobr
|
Gwyl Ffilm a Theledu Celtaidd |
1995 |
Ffilm Orau
|
Houston International Film Festival, UDA |
1995 |
Silver Award
|
Lleoliadau arddangos:
- Gwyl Ffilmiau Ryngwladol Llundain Regus, 1994
- New British Expo, Gwyl Ffilmiau Caeredin, Yr Alban 1995
- Gwyl Ffilmiau San Sebastiàn, Sbaen 1995
- British Film Showcase, AFI/Los Angeles International Film Festival, UDA 1995
Manylion atodol
Llyfrau
- Steve Blandford, Film, Drama and the Break-up of Britain (Llundain: Intellect Books, 2007)
- Dave Berry, 'Unearthing the Present: Television Drama in Wales', yn Steve Blandford (gol.), Wales on Screen (Penybont: Seren, 2000), tt. 128–151.
Gwefannau
Adolygiadau
Erthyglau
- "Tristwch a gwae Branwen fodern" Y Cymro, 14 Rhagfyr 1994 (wedi’i ail-argraffu yn Orson, Rhagfyr 1994)
- Clasuron Ffilm ar DVD. BBC Cymru (26 Hydref 2005). Adalwyd ar 20 Awst 2014.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Branwen ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.