Mawrth
|
Symbol
|
♂
|
Nodweddion orbitol
|
Pellter cymedrig i'r Haul
|
1.52 US
|
Radiws cymedrig
|
227,936,640km
|
Echreiddiad
|
0.09341233
|
Parhad orbitol
|
779.95d
|
Buanedd cymedrig orbitol
|
24.1309 km s−1
|
Gogwydd orbitol
|
1.85061°
|
Nifer o loerennau
|
2
|
Nodweddion materol
|
Diamedr cyhydeddol
|
6792.4 km
|
Arwynebedd
|
1.44×108km2
|
Más
|
6.4191×1023 kg
|
Dwysedd cymedrig
|
3.94 g cm−3
|
Disgyrchiant ar yr arwyneb
|
3.71 m s−2
|
Parhad cylchdro
|
24.6229a
|
Gogwydd echel
|
25.19°
|
Albedo
|
0.15
|
Buanedd dihangfa
|
5.02 km s−1
|
Tymheredd ar yr arwyneb: |
isafrif |
cymedrig |
uchafrif
|
133K |
210K |
293K
|
|
Nodweddion atmosfferig
|
Gwasgedd atmosfferig
|
0.7-0.9kPa
|
Carbon deuocsid
|
95.32%
|
Nitrogen
|
2.7%
|
Argon
|
1.6%
|
Ocsigen
|
0.13%
|
Carbon monocsid
|
0.07%
|
Anwedd dŵr
|
0.03%
|
Llosgnwy
Neon
Crypton
Senon
Osôn
|
arlliw
|
Y bedwaredd blaned oddi wrth yr Haul yw Mawrth (symbol: ). Mewn rhai ffyrdd, mae'n debyg i'r Ddaear; mae iddo ddiwrnod 24.63 awr (y "sol") ac mae'n cymeryd 687 o ddyddiau i fynd o amgylch yr haul, sy'n golygu bod ei blwyddyn bron ddwywaith hirach na'r un ddaearol. Oherwydd ei bod yn bellach na ni o'r haul mae ei hwyneb yn oerach ac yn amrywio o –125°C yn y pegynau rhewllyd i 25°C yn llygad yr haul ar y cyhydedd.
Er nad yw pwysedd yr awyr ond yn 6mb (llai na 1% o bwysedd atmosfferig y ddaear), mae hynny'n dal yn ddigon i beru gwyntoedd cryfion sy'n achosi stormydd llwch amlwg iawn ar adegau a rheiny'n medru para am wythnosau. Mae'r aer dennau yn 95% carbon deuocsid, â'r gweddill yn neitrogen, argon ac ychydig bach bach o ocsigen ac anwedd dŵr. Ar y llaw arall, prin fod y tymheredd yn codi dros y rhewbwynt ac mae'r awyr yn denau iawn heb fawr o ocsigen. Mae gan Fawrth ddwy leuad neu loeren, sef Phobos a Deimos.
Mawrth yw'r unig blaned i roi ei henw i un o ddyddiau'r wythnos yn ogystal ag un o fisoedd y flwyddyn.
Am na fu'r prosesau erydu sydd wedi llunio tirwedd y ddaear cyn gryfed ar Fawrth fe erys rhai o'i mynyddoedd yn eithriadol o uchel a garw a cheir ceunentydd enfawr a serth sydd sawl gwaith dyfnach a hirach na'r Grand Canyon. Ceir hefyd losgfynyddoedd, e.e. Olympus Mons, sydd lawer iawn mwy na dim a geir ar y Ddaear, a sawl crater amlwg lle bu gwrthdrawiadau â sêr gwib o'r gofod yn y gorffennol. Nodwedd amlwg iawn yw'r pegynnau gwynion, sydd yn gapiau rhew – 85% carbon deuocsid a 15% dŵr. Heblaw am y pegynnau ni cheir dŵr ar yr wyneb ar hyn o bryd, ond yn ddiweddar daeth llawr o dystiolaeth ffotograffig y bu dŵr yn llifo yma ar un adeg – ni fedr rai o'r nentydd sychion a rhai nodweddion eraill fod wedi cael eu creu gan ddim byd arall yn ôl y farn wyddonol.
Daearyddiaeth
Mae wyneb y blaned yn dangos gwahaniaeth sylfaenol rhwng y gogledd a'r de. Yn hemisffer y gogledd mae diffyg craterau a nodweddion tebyg yn awgrymu bod wyneb y blaned yn gymharol ifanc. Yn yr hemisffer deheuol, fodd bynnag, mae digonedd o graterau, dyffrynoedd ac yn y blaen - sy'n awgrymu hen wyneb. Rhwng yr hemisfferau mae dyffryn mawr o'r enw Valles Marineris. Nodweddion pwysig eraill yw'r llosgfynyddoedd Olympus Mons, Pavonis Mons, Ascraeus Mons, ac Arsia Mons. Mae statws y llosgfynyddoedd yma yn ansicr.
Cafwyd digonedd o dystiolaeth o ddŵr ar wyneb y blaned yn y gorffennol; awgrymir bod llifogydd wedi siapio nifer o ddyffrynoedd ar y blaned (gweler y llun, dde), a chredir bod y basn Hellas yn cynnwys môr miliynau o flynyddoedd yn ôl. Heddiw, mae'r capiau iâ yn cynnwys carbon deuocsid a dŵr, ac mae'n debyg bod y pridd Mawrthaidd yn cynnwys cryn dipyn o iâ dŵr. Cadarnhaodd Phoenix (y glaniwr NASA) hyn yn 2008 ar ôl palu ffos yn y pridd gyda'i fraich robotig, a thynnu lluniau o iâ ar ochrau y ffos.
Bywyd
Ers canrifoedd mae seryddwyr wedi awgrymu bod bywyd yn bodoli ar y blaned. Ym 1877 cyhoeddodd y seryddwr Giovanni Schiaparelli ei ddarganfyddiad o 'gamlesi' ar y blaned; cafodd yr adroddiad ei gadarnhau gan seryddwyr eraill. Roedd opteg, fodd bynnag, yn sylfaen iawn ar y pryd, ac mae'n debyg bod hyn yn enghraifft o dwyll llygaid.
Ym 1976 anfonodd NASA ddau chwiliedydd gofod, sef Viking 1 a Viking 2, i'r blaned. Glaniodd y ddau ar y blaned, a chafodd arbrofion eu gwneud ar y pridd i chwilio am ficro-organebau, ond roedd y canlyniadau yn amhendant. Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae chwiliedyddion gofod wedi darganfod methan yn yr awyr, arwydd sydd, efallai, yn awgrymu bod micro-organebau yn goroesi hyd heddiw o dan y pridd.
Mae presenoldeb dŵr, yn codi'r cwestiwn dyrus: a oes, neu a fu, bywyd ar Fawrth? Ym Mehefin 1976 cyrhaeddodd Viking 1 wyneb y blaned ac arni lwy fecanyddol i godi samplau o bridd a'u dadansoddi'n gemegol am olion bywyd. Pan roddwyd maeth hylifol ar rai o'r samplau bu cyffro mawr pan gynhyrchwyd ocsigen, yn union fel y gellid ei ddisgwyl petae bacteria cyntefig yn y pridd. Gwaetha'r modd doedd y prawf ddim digon manwl oherwydd gallasai prosesau di-fywyd roi'r un canlyniad. Ers hynny cynhaliodd cerbyd bach crwydrol y Mars Pathfinder (1997), a dau arall – y Spirit ac Opportunity (2004) – brofion tebyg ond, eto, amhenodol fu'r canlyniadau. Mae'r ddadl yn parhau felly.
Pan ddaeth Giovanni Schiaparelli i'r canlyniad, yn 1877, bod patrymau ar ffurf llinellau i'w gweld ar wyneb Mawrth (canali fel y'u gelwid yn yr Eidaleg), buan y daeth pobl, gan gynnwys y seryddwr enwog Percival Lowell ddechrau'r 20g, i gredu mai camlesi enfawr oeddent, wedi cael ei hadeiladu gan wareiddiad datblygedig i drosglwyddo dŵr o'r pegynnau i ddyfrio'r anialdiroedd.
O ganlyniad aeth dychymyg pobl yn rhemp am fywyd ar blanedau eraill a buan y daeth nofelwyr i sgwennu am deithiau gofodol, gan gyfuno ychydig o wyddoniaeth, stori antur dda a chryn dipyn o wreiddioldeb! Esgorwyd ar 'genre' newydd o sgwennu ddaeth yn adnabyddus fel ffuglen wyddonol, e,e, Percy Gregg â'i Across the Zodiac (1890), ddisgrifiodd daith mewn llong ofod drwy system yr haul yn ymweld a'r planedau, gan gynnwys y Fawrth boblog. Yna, yn 1898 cyhoeddodd H. G. Wells ei nofel enwog War of the Worlds a The First Men in the Moon yn 1901. Daeth War of the Worlds i amlygrwydd byd eang yn 1938 pan y'i ddarlledwyd ar y radio yng ngogledd America gan Orson Welles. Roedd cyflwyniad Welles, ar ffurf adroddiad newyddion, mor ddramatig nes yr achosodd banic llwyr ymysg llawer o'i wrandawyr gan beri iddynt ffoi yn eu degau o filoedd o Efrog Newydd rhag llongau gofod dinistriol y 'Marshans', gan achosi'r tagfeydd traffig a'r llanast mwyaf welodd y ddinas erioed.
O'r 1920au hwyr daeth cylchgronau a nofelau ffuglen wyddonol i werthu yn eu cannoedd o filoedd, a daeth y dynion bach gwyrdd, efo cyrn malwen ar eu pennau yn eiconau llenyddol poblogaidd mewn comics, dramâu radio cyffrous a rhai o ffilmiau byrrion Fflash Gordon a sawl ffilm wael, hirach, yn y 1950au. Ni chafwyd ymdriniaeth gall o Fawrth yn y maes hwn tan The Sands of Mars, Arthur C Clarke (1951), sy'n weddol agos at ei le o ran yr amgylchedd mae'n bortreadu ar y blaned goch.
Dim ond yn raddol, wrth i delescopau gwell gael eu datblygu, y gwelwyd mai twyll llygad oedd wedi rhoi'r argraff o linellau, neu ganali, ac mai anialwch orchuddiai wyneb y blaned goch. Trawsnewidiwyd ein gwybodaeth pan lwyddodd y lloeren Mariner 9, fu'n cylchdroi o amgylch Mawrth, yrru lluniau manwl yn ôl i'r ddaear yn 1971 – 72.
Fforio Mawrth
Y chwiliedydd cyntaf i ymweld â'r blaned oedd Mariner 4, a lansiwyd gan NASA ym 1964; wnaeth o hedfan heibio'r blaned yn 1965, yn dychwelyd 22 o luniau. Wnaeth y rhain ddangos wyneb y blaned i fod yn debyg i'r Lleuad, gyda nifer mawr o graterau.
Yn y diwedd, darganfuwyd y gwnaeth Mariner 4 hedfan heibio'r ardal hynaf ar y blaned trwy ddamwain a hap; mae tirlun y blaned yn fwy amrywiol nac yr awgrymwyd gan y lluniau cyntaf yma. Wnaeth Mariner 9 gylchu'r blaned o 1971 ymlaen, yn creu'r mapiau cyflawn cyntaf o'i wyneb cyn diwedd ei daith y flwyddyn wedyn, ac yn dangos amrywiaeth yn nhirlun y blaned. Roedd Mariner 9 hefyd yn gyfrifol am ddarganfod Valles Marineris, y dyffryn mwyaf i'w darganfod yng Nghysawd yr Haul. Roedd yr Undeb Sofietaidd yn gyfrifol am lanio'r chwiliedydd cyntaf ar y blaned, Mars 2, ym 1972, ond wnaeth y chwiliedydd gyrraedd yn ystod storm llwch, a methodd yn ystod ei ddarllediad cyntaf heb ddychwelyd unrhyw ddata o bwysigrwydd. Wnaeth y chwiliedyddion Viking ehangu ac ymestyn y data a gasglwyd gan Mariner 9 yn y 70au hwyr.
Ers yr 1990au ar ôl mwy na degawd ers ei daith olaf i'r blaned, penderfynodd NASA wneud fforio Mawrth. Roedd Mars Observer, a lansiwyd ym 1992, yn gais i roi chwiliedydd mewn orbit, ond methodd cyn cyrraedd. Roedd Mars Pathfinder, a lansiwyd ym 1996, yn fwy llwyddiannus; glaniodd y chwiliedydd ar y blaned, a llwyddodd i ddanfon lluniau o wyneb y blaned am y tro cyntaf ers yr 80au cynnar yn ôl i'r Ddaear.
Erbyn hyn, mae dau chwiliedydd yn weithredol ar wyneb y blaned, Spirit ac Opportunity, cerbydau gyda'r gallu i deithio dros wyneb y blaned (ond ers 2009 mae Spirit wedi bod yn sownd mewn pridd meddal). Mae tri arall yn cylchu'r blaned, yn monitro tywydd y blaned ac yn dychwelyd data eraill; lawnsiwyd cerbyd arall, y Mars Science Laboratory, yn 2011, ac mae gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeiaidd gynllun i lawnsio cerbyd, ExoMars, yn 2016. Yn 2021 glaniwyd y crwydwr Perseverance ar y blaned gyda'r bwriad o storio creigiau a pridd Mawrthaidd. Bwriad taith yn y dyfodol bydd cludo'r deunydd hwn yn ôl i'r Ddaear.
Dyn ar Fawrth
Cymaint oedd dylanwad ffuglen wyddonol ar bobl ifanc ddechrau'r 20g nes yr ysgogwyd rhai i chwilio am ddulliau o gyrraedd y gofod ac i arbrofi efo rocedi. Darllen War of the Worlds ysbrydolodd yr Americanwr ifanc Robert Goddard i ddyfeisio a lawnsio'r roced danwydd hylif gynta yn 1926. Darllen deunyddiau tebyg yn yr Almaeneg gychwynodd yrfa Werner von Braun (a ddyfeisiodd rocedi i Adolff Hitler, a'r Americanwyr yn ddieddarach) ac yr un oedd cefndir Fredrik Tsander fu'n gyfrifol am lawnsio rocedi cynta Rwsia. Cri Tsander i ysbrydoli ei gyd-weithwyr fyddai “Ymlaen i Fawrth!”
Mawrth y Duwiau
Lliw coch y blaned, neu'r seren symudol hon, fu'n gyfrifol am iddi gael ei henwi ar ôl Mawrth – duw rhyfel y Rhufeiniaid – sy'n cyfateb âg Ares, duw rhyfel, terfysg a thywallt gwaed y Groegiaid a Nergal, y duw o Mesopotamia sy'n lladd drwy ryfel a phla. Yn Tsieina cysylltir y blaned â thân a gwaed.
Roedd gan y Celtiaid sawl duw a chwlt lleol fyddai'n cyfateb i'r Mawrth Rhufeinig ond yn hytrach na chyfyngu ei hun i fod yn dduw'r milwyr, ac un ffyrnig a didostur oedd o hefyd, yn cynrychioli rhyfel er mwyn rhyfel, roedd y 'Mawrth' Celtaidd yn ehangach ei fryd. Byddai'n amddiffyn rhag drygioni ag afiechydon yn ogystal. Cafwyd delwau ac arysgrifau o'r cyfnod Rhufeinig i 'Mars Nodeus', yn iachawr gysylltir â Lydney yn ne Lloegr; 'Mars Camulos' gysylltir â Camulodunum (Colchester) a Camuloressa (yn ne'r Alban); 'Mars Lenus' oedd yn iachawr ac amddiffynnwr yr ifanc sy'n gysylltiedig â ffynhonnau yng Ngâl ac y cafwyd delw iddo yng Nghaerwent. Portreadir Lenus fel milwr efo gŵydd wrth ei droed – aderyn sy'n aml yn cael ei gysylltu â duw rhyfel y Celtiaid oherwydd ei natur ymosodol a'r ffaith y bydd yn rhybuddio rhag peryg. Cafwyd yr enw 'Mars Ocelus' hefyd yng Nghaerwent, efo Ocelus, mae'n debyg yn enw gan y Silwriaid lleol am y Mawrth Celtaidd.
Deimos a Phobos
Mae gan Fawrth ddwy leuad fechan, Deimos (arswyd) a Phobos (ofn), sydd ddim ond rhyw chydig gilomedrau ar eu traws ac yn debyg o fod yn asteroidau wedi eu dal yn hytrach na lleuadau go iawn. Fe'u gelwid ar ôl meibion Ares ac Aphrodite – duw rhyfel a duwies cariad y Groegiaid. Mae cylchdro Phobos yn lleihau'n raddol – ryw ddwy fedr y flwyddyn – sy'n golygu y bydd yn disgyn, gan achosi craith ar wyneb ei 'dad', ond ymhen 50 miliwn o flynyddoedd!
Cyfeiriad
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).
Planedau yng Nghysawd yr Haul
|