Planed yw corff sy'n cylchdroi o amgylch seren, er enghraifft mae'r Ddaear yn blaned gan ei bod yn cylchdroi o amgylch ein seren ni, sef yr haul. Wyth planed sydd yn Nghysawd yr Haul, tair planed gorrach a sawl planed llai. Mae sawl planed enfawr wedi cael eu darganfod yn cylchdroi o amgylch sêr eraill, ac mae planedau llai eu maint yn cael eu darganfod trwy ficrolensio dwysterol; gelwir y planedau hyn yn blanedau allheulol.
Gellir rhannu'r planedau hyn yn ddau ddosbarth: y cewri mawr llawn nwyon ar y naill law a'r cyrff llai o greigiau ar y llaw arall. Ceir wyth planed yng Nghysawd yr Haul; mae Mercher, Gwenner, Y Ddaear a Mawrth yn blanedau daearol, Iau a Sadwrn yn gewri nwy, ac Wranws a Neifion yn gewri iâ.
Mae gennym faes magnetig o amgylch ein planed sy'n ein hamddiffyn rhag ffrwydradau ymbelydredd a gronynnau y mae'r Haul yn eu hanfon.
Diffiniad
Mae planed yn gorff sydd:
- mewn orbit o amgylch yr Haul;
- â digon o fàs i gynnal disgyrchiant ei hun er mwyn trechu grymoedd gan gyrff eraill, fel y ffurfir siâp hydrostatig cytbwys;
- wedi tyfu mor fawr fel ei fod wedi gorffen y gwaith o glirio neu atynnu'r mân lwch, y cerrig, y gwib a'r cyrff eraill sydd yn ei orbit.
Daeth y diffiniad uchod i fodolaeth yn 2006; diffiniad nad oedd yn caniatáu i Blwton fod yn blaned ac felly'n lleihau planedau cysawd yr haul o naw i wyth:
- Mercher
- Gwener
- Daear
- Mawrth
- Iau
- Sadwrn
- Wranws
- Neifion
Iau yw'r fwyaf; 318 gwaith màs y Ddaear; a Mercher yw'r lleiaf; 0.055 gwaith màs y Ddaear.
Ystyrid Plwton bellach yn blaned gorrach.
Planedau yng Nghysawd yr Haul
|
Planedau allheulol
Planed allheulol yw planed sydd y tu allan i Gysawd yr Haul. Er gwaethaf yr enw Daear-ganolog, mae pob planed allheulol (extrasolar) yn cylchu ei haul (seren) ei hun. Y cyntaf i gael ei darganfod oedd planed a oedd yn cylchu'r seren 51 Pegasi, a welwyd gyntaf ar Hydref 6, 1995 gan Michel Mayor a Didier Queloz o Brifysgol Genefa.
Roedd rhyw 306 o blanedau allheulog wedi'u darganfod erbyn Awst 2008. Un o'r ddiweddaraf i gael ei darganfod yw Gliese 581 c sy'n 20 blwyddyn goleuni i ffwrdd ac fe allai gynnal bywyd.